Archif Newyddion

Nadolig Llawen gan Ysgol Llanbedrog!

childrenNadolig Llawen gan Ysgol Llanbedrog! Cliciwch yma i weld y fideo.


19/12/18 Cinio a Parti Nadolig

childrenDiolch Anti Susan, Anti Iona ac Anti Rose am ginio 'dolig bendigedig heddiw. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


14/12/18 Diwrnod Siwmperi Nadolig

Llwyddwyd i godi £55 tuag at Achub y Plant.


14/12/18 Cronfa'r Parc

Hwre! Rydym hanner ffordd tuag at gyrraedd ein targed o £4000 i gael llawr newydd i'r parc. Llwyddwyd i gasglu £400 gyda'r ras trawsgwlad noddedig, £567 yn y Ffair Nadolig a £1036 yn ystod ein sioeau Nadolig yr wythnos yma. ANHYGOEL! Diolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn!!


07/12/18 Ffair Nadolig

childrenLlwyddwyd i godi £567 yn y Ffair Nadolig eleni. Diolch anferth i'r holl deuluoedd am gefnogi ac i Martin a'r criw yng Nglyn y Weddw. Gwych! Cliciwch yma am fwy o luniau.


29/11/18 Lluniau Llyn

Cynnyrch menter diweddaraf y Cyfnod Sylfaen ar gael i'w prynu yn ein Ffair Nadolig neu archebwch yn yr ysgol.


23/11/18 Bocsys Nadolig T4U

children49 o focsys Nadolig yn barod i ddod a chyffro i blant bach Romania. Diolch i’r plant a ddaeth a bocs i’r ysgol. Cliciwch yma i weld y fideo.


23/11/18 Potel Ddwr Ysgol Llanbedrog

childrenCliciwch yma i weld y fideo.


16/11/18 Plant Mewn Angen

childrenLlwyddwyd i godi £150 i Blant Mewn Angen heddiw. Diolch am eich cefnogaeth! Cliciwch yma am fwy o luniau.


14/11/18 Llyfr Tapas Pen Llyn

childrenMenter diweddar disgyblion 5 a 6. Llyfr llawn, o glawr i glawr, o dapas blasus wedi eu gwneud hefo cynnyrch o'n milltir sgwâr, yma ym Mhen Llyn. Cliciwch yma i weld y fideo.


05/11/18 Pawen Lawen

childrenPawennau llawen Ysgol Llanbedrog yn helpu ymgyrch Aled Hughes. Cliciwch yma i weld y fideo.


13/11/18 Gwersi Beicio

childrenDiolch yn fawr Paul ac Ifan am y gwersi beicio a llongyfarchiadau i ddisgyblion Bl 5 a 6 ar basio Lefel 1 a 2.


25/10/18 P’nawn Iechyd Da

childrenDiolch i ddisgyblion Blwyddyn 5a6 am drefnu p'nawn hwyliog i’n dysgu am gadw’n iach a diogel. Diolch i bawb a ddaeth draw, am eich cwmni a'ch cefnogaeth! Cliciwch yma am fwy o luniau.


08/10/18 Logo Cyngor Ysgol

childrenY logo Cyngor Ysgol buddugol. Llongyfarchiadau!


04/10/18 Run for Fun

childrenRas traws gwlad gwych yng Nglasfryn heddiw. Da iawn pawb! Cliciwch yma am fwy o luniau.


03/10/18 Fferm Glynllifon

children Bore gwerth chweil y cyfnod sylfaen ar fferm Glynllifon! Cliciwch yma am fwy o luniau.


29/09/18 Macmillan

childrenDiolch am eich cefnogaeth bore 'ma. Llwyddwyd i godi £220 tuag at Macmillan rhwng ein bore coffi a chasgliadau Flipside a Londis Llanbedrog. Gwych! Cliciwch yma am fwy o luniau.


20/9/18 Cadw Cymru'n Daclus

childrenBlwyddyn 5 a 6 yn casglu sbwriel o gwmpas y parc, hefo Cadw Cymru’n Daclus. Cliciwch yma ma fwy o luniau.

 

04/07/18 Pêl droed a Rownderi

childrenTwrnament pêl droed a rownderi yn Ysgol Edern. Llongyfarchiadau i'r tîm pêl droed am ddod yn ail. Diolch Ysgol Edern am y croeso!


03/07/18 Aberdaron

childrenDiolch Mared, Catrin, Lily ac Alex am brofiadau difyr ac hwyliog ym Mhorth y Swnt ac Aberdaron ddoe, yn trafod Baled Largo a phroblem llygredd y mor.


25/06/18 Llongyfarchiadau Cwmwd!!

childrenEnillwyr Mabolgampau Ysgol Llanbedrog 2018!


25/06/18 Mabolgampau / P'nawn Hwyl Fawr

childrenPrynhawn bendigedig yn y Mabolgampau! Da iawn blant! Cliciwch yma am fwy o luniau.


22/06/18 Codio 5 a 6

Bu disgyblion bl 5 a 6 yn cystadlu yng nghystadleuaeth codio blynyddol Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli. Diwrnod gwerth chweil!


21/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Snwcer

childrenDiolch o galon i Peter Williams 'Cue Games for Schools' a ddaeth atom i sgwrsio am y gêm a'i lwyddiant yng Nghymru. Diolch hefyd am y bwrdd i'r plant!


21/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Criced Cymru

childrenLlongyfarchiadau mawr iawn i'r tîm criced a gyrhaeddodd y rownd gyn derfynol heddiw! Rydym mor falch o'r ddau dîm am ddangos brwdfrydedd a chwrteisi arbennig! Ardderchog blantos!


20/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Sesiwn Rygbi

childrenDiolch o galon i Jessica Kavanagh Williams, 'Chwaraeon Am Oes' am sesiwn ymarfer rygbi gwerth chweil.


20/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Eisteddfod Ddawns

childrenPerfformiadau gwerth chweil gan y plant yn yr Eisteddfod Ddawns eto eleni! Cliciwch yma i weld fideo.


19/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Eisteddfod Ysgol

childrenUnwaith eto eleni, cawsom eisteddfod wefreiddiol a diwrnod i'w gofio. Diolch i'r holl feirniaid am eu gwaith caled, Mared Owen - cliciwch yma - cerddoriaeth, Mair Jones - cliciwch yma - llefaru, Mared Gwyn - cliciwch yma - llenyddiaeth, Dafydd Nant - cliciwch yma - ffotograffiaeth, Catherine Dolion - celf, Heather Caffi Grug - coginio, a Christine Jones - dawnsio. Ond yn fwy na dim, diolch i'r plantos am eu gwaith caled a'u brwdfrydedd heintus. Cliciwch yma i weld y fideo.


18/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Eisteddfod Goginio

childrenEisteddfod goginio lwyddiannus iawn eto eleni. Diolch am eich cefnogaeth. Cliciwch yma am fwy o luniau.


18/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Alun Tan Lan

childrenAgoriad ysbrydoledig i Wythnos Cymru Cwl! Diolch i Alun Tan Lan am brofiadau gwirioneddol wych a chreadigol i'r disgyblion. Pawb wedi mopio efo'r iwcalelis! Cliciwch yma i weld fideo.


14/06/18 Diwrnod Cacennau

childrenCasglwyd £67.20 tuag at elusen Alzheimer's Society! Diolch am eich cefnogaeth! Cliciwch yma am fwy o luniau.


13/06/18 Llwybr yr Arfordir

childrenDiwrnod bendigedig yn cerdded llwybr yr arfordir gyda Iwan Hughes yn ein tywys ac yn ein diddori gyda hanes Solomon Andrews. Cliciwch yma am fwy o luniau.


03/06/18 Glan Llyn

childrenDyma ychydig luniau o amser blwyddyn 5 yng Nglan Llyn. Cliciwch yma am fwy o luniau.


21/05/18 Trip Caerdydd

childrenMwynhaodd disgyblion blwyddyn 6 dridiau i'w gofio yng Nghaerdydd yr wythnos hon, tridiau llawn dop o weithgareddau difyr a bythgofiadwy.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


17/05/18 NSPCC

childrenY plant wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer yn y gweithdai gan yr NSPCC.


09/05/18 Sw Môr

childrenDiwrnod gwerth chweil y Cyfnod Sylfaen yn Sw Môr!
Cliciwch yma am fwy o luniau.


06/05/18 Gwyl Fai

childrenDiolch anferthol i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd i'r diwrnod dathlu Gwyl Fai. Cawsom ddiwrnod gwerth chweil yn yr haul braf, gan godi £1,075 o elw, i'w rannu rhwng Cylch Meithrin ac Ysgol Llanbedrog, £537.50 bob un. Gwych! Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr.


27/04/18 Lori Ni

childrenY plant yn mwynhau edrych ar lyfrau yn Lori Ni bore 'ma.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


23/04/18 Plas Menai 2018

childrenCafodd blwyddyn 3 a 4 amser gwych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ym Mhlas Menai.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


23/04/18 Gala Nofio 2018

childrenCymryd rhan yn y Gala Nofio.


23/04/18 Tîm Pêl droed yr Urdd 2018

childrenDyma dîm Pêl droed yr Urdd

 

 

26/03/18 Y Cit Chwaraeon Newydd

childrenHwre! Mae'r cit wedi cyrraedd ar ôl hir ymaros a phawb wedi gwirioni yn lân. Mae'r lluniau yn dweud y cyfan! Diolch o galon i'r disgyblion a lwyddodd i godi £820!! Dipyn o gamp! Diolch anferth hefyd i Iolo Evans, Garej Glanafon Abersoch a Danial Parri Jones y Trydanwr am eu cyfraniad hael. Mae edrych ymlaen mawr i gael eu gwisgo ac edrych yn smart yn y twrnament nesaf.


26/03/18 Mei Mac

childrenCafodd plant Blwyddyn 5a6 brofiad a hanner wrth fynd yn ol mewn amser hefo'r Prifardd Mei Mac i ddisgrifio dylanwad Solomon Andrews ar yr ardal leol, ganrif a mwy yn ol. Diolch i ANHE am noddi'r gweithdy. Cliciwch yma am fwy o luniau.


02/03/18 Diwrnod Y Llyfr

childrenCliciwch yma am fwy o luniau.


01/03/18 Dydd Gŵyl Dewi

Diwrnod gwych yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Llwyddwyd i godi £35.60 tuag at yr elusen Marie Curie. Cliciwch yma i weld y fideo.


26/01/18 Ymarfer Cylchol Noddedig y Cyfnod Sylfaen

childrenDiolch anferth i Huw o'r Ganolfan Hamdden am baratoi sesiynau gwerth chweil i'r plant. Llwyddwyd i god £820! Gwych! Diolch am gefnogi! Cliciwch yma am fwy o luniau.


25/01/18 Diwrnod Hoffi'r Parêd

childrenCliciwch yma am fwy o luniau.


19/01/18 Ymarfer Cylchol Noddedig

childrenGweithiodd CA2 yn galed yn y Ganolfan Hamdden i godi arian tuag at y cit a'r adnoddau chwaraeon newydd. Da iawn chi! Cliciwch yma am fwy o luniau.


05/01/18 Athletau

childrenLlongyfarchiadau i'r tîm athletau ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth heddiw! Da iawn chi!

 

 

15/12/17 Diwrnod Siwmperi Nadolig

children


12/12/17 Santa ar Streic

childrenSioe Nadolig wych gan y Cyfnod Sylfaen. Da iawn chi!


04/12/17 Plas yn Rhiw

childrenAntur y Cyfnod Sylfaen yng nghoedwig Plas yn Rhiw. Cliciwch yma am fwy o luniau.


17/11/17 Plant Mewn Angen

childrenDiwrnod gwych yn codi arian at apêl Plant mewn Angen. Llwyddwyd i godi £159. Diolch am gefnogi.Pleser oedd cael croesawu Aled Hughes a Pydsi i'r ysgol heddiw. Pob lwc i Aled fydd yn gorffen ei daith feicio ym Mangor p'nawn 'ma. Cliciwch yma am fwy o luniau.


17/11/17 Bocsys Nadolig T4U

children38 o focsys Nadolig yn barod i ddod a chyffro i blant yn Nwyrain Ewrop. Diolch i'r disgyblion a ddaeth a bocs i'r ysgol. Cliciwch yma am fwy o luniau.


16/11/17 Amgueddfa Lechi Llanberis

childrenCafodd blwyddyn 3 a 4 ddiwrnod bendigedig yn mynd yn ôl mewn amser i Oes Fictoria yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.


30/10/17 Caffi Darllen

childrenCaffi Darllen cyntaf gwerth chweil. Diolch am eich cefnogaeth. Cofiwch fod y Caffi nesaf am 3.30, Tachwedd y 9fed. Dewch yn llu! (Blwyddyn 3 i 6) Cliciwch yma am fwy o luniau.


11/10/17 Llyfrgell

childrenCafodd plant blwyddyn 1 a 2 amser gwych yn y llyfrgell ym Mhwllheli yn gwrando ar yr awdures Bethan Gwanas yn darllen ei straeon.


29/09/17 Zumba

childrenDiolch Shari Pollitt am fore bendigedig. Sesiynau Zumba gwych a llawn hwyl i hyrwyddo ymarfer corff. Y plant wedi mwynhau yn ofnadwy!


28/09/17 MacMillan

childrenDiolch am eich cefnogaeth bore 'ma! Bore coffi llwyddiannus iawn. Casglwyd £201.78 tuag at Macmillan. Gwych!


26/09/17 Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd

childrenDiwrnod Ieithoedd Ewropeaidd

 

 

19/07/17 P'nawn Hwyl Fawr

childrenDyma ychydig luniau o'r P'nawn Hwyl Fawr ddoe. Diolch am eich cefnogaeth. Cliciwch yma am fwy o luniau.


18/07/17 Priodas Ffug

Bore bendigedig yn dathlu priodas Archie a Hattie. Diolch i staff y gegin am ginio rhost gwerth chweil ac i Anti Paula am gacen briodas flasus.


17/07/17 Fferm Gwningod

childrenTrip y Cyfnod Sylfaen i'r Fferm Gwningod. Cliciwch yma am fwy o luniau.


11/07/17 Pêl droed a Rownderi

childrenDa iawn blwyddyn 5a6 am roi o'ch gorau yn y twrnament pêl droed a rownderi dalgylch yn Edern heddiw. Llongyfarchiadau mawr i'n tim pel droed a ddaeth yn ail!


10/07/17 Gweithdy Celf Catrin Williams

childrenBu plant blwyddyn 2, 3 a 4 yn brysur gyda'r artist Catrin Williams yn creu baner i groesawu baton Gemau'r Gymanwlad i Bwllheli.


06/07/17 Trip y Cyfnod Sylfaen

childrenP'nawn bendigedig y Cyfnod Sylfaen ar draeth Llanbedrog. Cliciwch yma am fwy o luniau.


06/07/17 Gwibdaith leol CA2

childrenTaith CA2 ar hyd llwybr yr arfordir i Borth Ceiriad.


06/07/17 Wythnos Cymru Cwl - Dewi Pws

childrenDiolch Dewi Pws am ddod i'r ysgol i ganu efo ni!


05/07/17 Eisteddfod Ysgol

Cafwyd gwledd o gystadlu yn Eisteddfod yr Ysgol yn ganu, llefaru, dawnsio ac eitemau offerynnol. Diolch o galon i'r holl feirniaid a fu'n brysur yn ein cynorthwyo i wneud yr eisteddfod yn un fythgofiadwy, Catrin Parry, cerdd, Mared Llywelyn, llefaru, Shari Pollit, dawnsio. Penri Jones, llenyddiaeth, Dafydd Nant, ffotograffiaeth, Selina, celf a staff Plas Glyn y Weddw am feiriniadu'r coginio. Roedd y plant yn werth eu gweld a'u clywed yn perfformio eu gorau glas i'w tai, Cwmwd, Henllys a Pedrog ond Cwmwd oedd y ty buddugol eleni gyda Henllys a Pedrog yn gydradd ail. Llongyfarchiadau mawr blantos!


23/06/17 NSPCC

childrenNeges bwysig i'r plant bore 'ma gan aelodau'r NSPCC 'Cofia Ddweud! Cadwa'n Ddiogel!'


22/06/17 code.org

childrenCafodd Blwyddyn 5 a 6 ddiwrnod gwerth chweil yn y gystadleuaeth Code.org ddoe. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw. Diolch Coleg Meirion-Dwyfor am y croeso.


19/06/17 Tess Urbanska CA2

childrenDyma ychydig luniau o amser CA2 gyda Tess Urbanska.


15/06/17 Archifdy

childrenCafodd plant blwyddyn 1 a Derbyn fore difyr yng nghwmni Mrs Gwenda Williams o’r Archifdy yng Nghaernarfon. Daeth Mrs Williams ac amrywiaeth o hen luniau o Ben Llyn a hen deganau diddorol i ddangos i’r plant.

Cliciwch yma i weld mwy o lluniau


15/06/17 Myrddin ap Dafydd

childrenBu’r ysgol gyfan yn brysur yn barddoni gyda’r bardd Myrddin ap Dafydd ddoe. Gweithdy barddoni gwerth chweil! Rydym yn edrych ymlaen i arddangos cerddi’r plant o amgylch yr ysgol. Diolch!

Cliciwch yma i weld mwy o lluniau


14/06/17 Tess Ursbanka

childrenBu plant y Cyfnod Sylfaen yn greadigol iawn yr wythnos yma wrth weithio yn ddyfal i greu murluniau arbennig. Llawer o ddiolch i'r arlunydd Tess Urbanska am ei hamser. Bydd hi'n ymuno a ni eto Ddydd Llun i weithio gyda CA2, cofiwch eich hen ddillad!

Cliciwch yma i weld mwy o lluniau


14/06/17 Hwylio Blwyddyn 5

children



24/05/17 Hwylio

childrenCafodd bl6 ddiwrnod bendigedig ym Mhlas Heli yn hwylio.


23/05/17 Hoci a Rygbi

childrenDiwrnod gwych yn chwarae hoci a rygbi plant Blwyddyn 5a6 Dalgylch Botwnnog. Diolch Miss Evans am drefnu!

Cliciwch yma i weld mwy o lluniau


22/05/17 Nant Gwrtheyrn

childrenDyma ychydig luniau o drip blwyddyn 2, 3 a 4 i Nant Gwrtheyrn. Bu'r plant wrthi yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau a cafwyd cyfleoedd gwerth chweil i ddysgu mwy am chwedl Rhys a Meinir a hanes y diddorol y pentref. Diolch am y croeso.


12/05/17 Gala Nofio

childrenDa iawn blantos am wneud mor dda yn y Gala Nofio heddiw! Gwych!


09/05/17 @ebol

childrenDiwrnod gwych yn gwrando ar straeon, creu straeon a chael cyflwyniad o apiau newydd Atebol. Cliciwch yma am fwy o luniau.


02/05/17 Ymweliad Beth

childrenDaeth ffrind newydd i'r ysgol bore 'ma, Beth yr oen bach. Roedd yn brofiad gwych i'r plant gael ei chyfarfod a chael dysgu am y tymor wynau. Diolch o galon Mrs Allen am ddod a hi i'n gweld. Cliciwch yma am fwy o luniau.


01/05/17 Gwyl Fai

childrenCawsom ddiwrnod bendigedig yn dathlu'r wyl â'r plant a'u teuluoedd i gyd wrth eu boddau gyda'r holl weithgareddau arbennig. Diolch i bawb a fu mor brysur yn trefnu ac i bawb a ddaeth i'n cefnogi. Roedd hi'n braf cael cyfle i gymdeithasu gyda chriw y Cylch Meithrin a'r gymuned leol. Ac i goroni'r cyfan casglwyd dros £2200. Gwych! Cliciwch yma am fwy o luniau.


28/04/17 Dawns Y Fedwen

childrenLlawer o ddiolch i Sandy Davenport am ei hamser yn dysgu Dawns y Fedwen i'r plant i'w paratoi at yr wyl.

07/04/17 Banc Bwyd Pwllheli

childrenMae'r bwyd bellach ar ei ffordd i'r banc ym Mhwllheli, gyda Millie a'i mham a fydd yn gwirfoddoli yno ddwy waith yr wythnos. Da iawn Millie am gael syniad mor wych i helpu eraill. Diolch i bawb am gefnogi.


07/04/17 Cystadleuaeth Fferyllwyr Llyn

childrenDa iawn chi genod am ddod yn fuddigol yng nghystadleuaeth y Pasg Fferyllwyr Llyn.



07/04/17 Modelau Blwyddyn 2

childrenMae dosbarth blwyddyn 2 wedi bod yn andros o brysur adref yn creu modelau gwych o'r Goedwig Law. Mae llawer o amser ac ymdrech wedi mynd i'w creu. Mae nhw yn werth i'w gweld! Da iawn chi blant!! Cliciwch yma am fwy o luniau.


05/04/17 Banc Bwyd Pwllheli

childrenDiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi'r Banc Bwyd. Mae dal cyfle i chi gyfrannu cyn i'r bwyd gael ei gludo i Bwllheli fore Gwener. Diolch eto!


30/03/17 Codio

childrenRydym wedi bod yn cydweithio gyda Coleg Meirion Dwyfor i ddysgu mwy am godio mewn TGCh. Cliciwch yma am fwy o luniau.


30/03/17 Na Nel!

childrenDaeth yr awdures Meleri Wyn James i drafod ei nofel newydd Na Nel! Cliciwch yma am fwy o luniau.


29/03/17 Plas Menai

childrenTreuliodd blynyddoedd 3 a 4 ddeuddydd gwerth chweil ym Mhlas Menai yn beicio mynydd, caiacio, dringo a nofio. Cafwyd cwmni difyr disgyblion Ysgol Edern a chael cyfle i wneud ffrindiau newydd. Deuddydd i'w gofio. Cliciwch yma am fwy o luniau.


28/03/17 Clwb Cwmwd

children Dyma'r plant wrth eu boddau gyda'r rhieni p'nawn ddoe yn gwneud crefftau yng Nghlwb Cwmwd. Diolch! Cliciwch yma am fwy o luniau.


24/03/17 Trwynau Coch

children Diwrnod gwallgof gyda'r plant yn gwisgo welingtons a gwalltiau gwirion i'r ysgol i godi arian tuag at Comic Relief. Bu'r cyngor ysgol yn brysur yn gwerthu trwynau coch ar y stondin. Diolch am eich cefnogaeth. Cliciwch yma am fwy o luniau.


22/03/17 Clwb Cwmwd

children Diolch o galon i'r rhieni a fu'n brysur neithiwr gyda'r plant yn casglu deunyddiau naturiol ar draeth Llanbedrog. Mae'r plant yn edrych ymlaen yn ofnadwy at y clwb nesaf i gael eu defnyddio i greu crefftau.


09/03/17 Pêl Rwyd

childrenRydym yn falch iawn o'r tîm pêl rwyd am wneud mor dda yn y gystadleuaeth yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn. Da iawn chi!


09/03/17 Cwmni'r Fran Wen

childrenCafodd CA2 berfformiad gwerth chweil gan gwmni'r Fran Wen o'r sioe Sigl-di-gwt. Hanes a thrafferthion teulu bychan yn ystod y rhyfel.


02/03/17 Diwrnod y Llyfr

childrenDiwrnod llawn hwyl a sbri yn yr ysgol heddiw wrth ddathlu Diwrnod y Llyfr. Y Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur yn gwerthu llyfrau ail law ar y stondin, a'r ysgol gyfan yn modelu eu gwisgodd gwerth chweil ar y 'catwalk'. Diolch am y llyfrau ail law. Cliciwch yma am fwy o luniau.


01/03/17 Dydd Gwyl Dewi

childrenDiolch i'r plant am gyngerdd gwefreiddiol i'w gofio bore 'ma. Da iawn chi blantos! Roedd pawb werth eu gweld yn eu gwisgoedd Cymreig. Dydd Gwyl Dewi Hapus i chi gyd! Cliciwch yma am fwy o luniau.


28/02/17 Dydd Mawrth Ynyd

childrenP'nawn hwyliog yn dysgu am Ddydd Mawrth Ynyd, coginio a bwyta crempogau.


16/02/17 Cyngor Ysgol

childrenHoffai'r Cyngor Ysgol ddiolch i Mrs Angela Russell am y rhoddion o dlysau llechi hyfryd i aelodau'r Cyngor Ysgol, rhoddion i'w trysori am byth! Cliciwch yma am fwy o luniau.


14/02/17 Ailgylchu

childrenDaeth Gwenllian Roberts at y Cyfnod Sylfaen i sgwrsio am bwysigrwydd ailgylchu. Cliciwch yma am fwy o luniau.


14/02/17 Gwersi Sbaeneg

Cawsom fore o ddysgu Sbaeneg yng nghwmni Mared Gwyn o Lanbedrog. Erbyn diwedd y bore roedd pawb yn cyfarch a chyflwyno eu hunain yn hyderus mewn Sbaeneg. Gracias Mared!


13/02/17 Gwasanaeth y Parchedig Andrew Jones

childrenCawsom wasanaeth difyr ble bu'r plant yn dysgu am liwiau gwahanol yr eglwys gyda'r Parchedig Andrew Jones. Cliciwch yma am fwy o luniau.


13/02/17 Dewi Pws

childrenCawsom fore llawn hwyl a sbri yn yr ysgol pan ddaeth Dewi Pws heibio i baratoi am y pared Gwyl Dewi. Bu'r plant yn morio canu ei gân arbennig 'Dewi Sant' gydag ef ar y banjo. Diolch yn fawr Dewi Pws! Cliciwch yma am fwy o luniau.


08/02/17 Yr Eglwys

childrenCafodd plant y Cyfnod Sylfaen b'nawn difyr yn eglwys Llanbedrog Dydd Mercher gyda'r Parchedig Andrew Jones. Roedd y plant wrth eu boddau yn cael dysgu am wahanol nodweddion yr eglwys a chael cyfle i ganu'r gloch. Diolch yn fawr Mr Jones am y croeso. Cliciwch yma am fwy o luniau.


12/01/17 Tan y Bwlch

childrenMwynhaodd plant blwyddyn 5a6 ddeuddydd prysur, llawn hwyl ym Mhlas Tan y Bwlch. Aethom am dro ar hyd yr afon ym Meddgelert at y cerflun a thrafod y chwedl. Buom yn casglu cerrig ar draeth Cricieth gan ymchwilio i batrwm a maint y cerrig. Cawsom hefyd gyfle i ddysgu mwy am y bardd enwog Hedd Wyn ar ddiwrnod ei benblwydd, cyn treulio prynhawn difyr yng Nghastell Harlech. Cliciwch yma am fwy o luniau.

 

 

16/12/12 Diwrnod Siwmperi Nadolig

childrenTalodd y plant £1 i ddod i’r ysgol yn eu siwmperi Nadolig heddiw er mwyn codi arian tuag at Achub y Plant.


15/12/16 Ymweliad Sion Corn

childrenDaeth dyn arbennig i weld y plant p’nawn Mercher, ar ôl cinio Nadolig bendigedig gan staff y gegin. Roedd y plant wedi gwirioni yn lân. Cliciwch yma am fwy o luniau.


15/12/16 Sioe Nadolig Cyw

childrenMwynhaodd plant y Cyfnod Sylfaen eu anrheg Nadolig sef trip i Ysgol Glan y Môr i weld Sioe Cyw. Roedd yn b’nawn i’w gofio!


14/12/16 Sioe Coleg Meirion Dwyfor

Mwynhaodd plant CA2 eu anrheg Nadolig sef trip i Neuadd Dwyfor i weld cynhyrchiad gwych Coleg Meirion Dwyfor o’r sioe Gwrach-od. Roedd yn b’nawn i’w gofio!


12/12/16 Nadolig yn y Ty Brics

childrenCawsom berfformiad gwych o sioe ‘Nadolig yn y Ty Brics’ gan plant y Cyfnod Sylfaen. Da iawn chi!!


06/12/16 Hen wr Doeth y Lleuad

childrenYn sioe Nadolig cyfnod allweddol 2 roedd ‘Hen Wr Doeth Y Lleuad yn edrych i lawr ar ein byd ni ac yn synnu wrth weld yr hyn oedd yn digwydd ar ein planed. Ar frys, dilynodd Serena’r seren wib er mwyn blasu’r cyfan drosto ei hun gan lanio ar ein daear . Profodd newyn a thlodi ar un llaw a phrysurdeb a hapusrwydd yr wyl ar y llaw arall. Maes o law dargafyddodd yr hen wr doeth a’i ffrindiau wir ystyr y Nadolig. Dyma sioe oedd yn wledd i’r glust a’r llygaid, sioe a lwyddodd i’n tywys o’r llon i’r lleddf.


28/11/16 Bocsys Nadolig 2016

childrenMae'r plant wedi bod yn brysur yn llenwi 33 o focsys nadolig er mwyn cefnogi elusen T4U. Mae'r bocsys yn cael eu cludo yr holl ffordd i Ddwyrain Ewrop i sicrhau fod pob plentyn yn cael nadolig llawen! Diolch i'r plant a ddaeth a bocs i'r ysgol.


22/11/16 Ymweliad PC Owen

childrenBu PC Owen yn yn siarad gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4 ar y thema 'Cerrig a Ffyn' gan eu dysgu am bwysigrwydd caredigrwydd a pharch at eraill. Cafodd blynyddoedd 5 a 6 gyfle i drafod ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gyda help llaw Tarian y Ddraig bu plant y Cyfnod Sylfaen yn dysgu ble sydd yn ddiogel i chwarae. Cliciwch yma am fwy o luniau.


18/07/16 Plant Mewn Angen

childrenCafodd y plant ddiwrnod llawn hwyl yn eu pyjamas heddiw a bu'r Cyngor Ysgol yn brysur yn gwerthu cacennau ar eu stondin amser chwarae. Llwyddwyd i godi £101 at apel Plant Mewn Angen. Diolch i bawb am gefnogi. Cliciwch yma am fwy o luniau. Cliciwch yma am fwy o luniau.


12/11/16 Gwyl Gerdd Dant
Pob lwc i'r parti sydd yn cystadlu yn yr wyl Gerdd Dant ym Mhlas Heli y fory.


10/10/16 Gwasanaeth Nia Coleg y Bala
Cafwyd gwasanaeth arbennig gan Nia Coleg y Bala gyda rhai o'r disgyblion yn cymryd rhan. Cliciwch yma i weld lluniau


10/10/16 Rygbi gyda David Martin
Bu plant blwyddyn 4,5 a 6 yn mwynhau gwersi rygbi David Martin o Glwb Rygbi Pwllheli. Bydd y gwersi yn parhau am ychydig wythnosau. Cliciwch yma i weld lluniau


05/10/16 Taith Gerdded
Taith Gerdded Cyfeillion Ysgol Llanbedrog
Nos Iau, Hydref 13 am 5:30


05/10/16 Croeso i flwyddyn addysgol newydd yn Ysgol Llanbedrog!

Croeso i flwyddyn addysgol newydd yn Ysgol Llanbedrog! Mae 79 o blant ar ein cofrestr  flwyddyn hon, gan gynnwys 11 plentyn bach newydd yn y dosbarth Meithrin. Rydym yn falch o ddweud fod  pawb wedi setlo yn arbennig o dda i drefn yr ysgol, a hynny o dan amgylchiadau mwy heriol na’r arfer, o gwmpas y gwaith adeiladu! Yn ogystal, croesawn athrawes Cyfnod Sylfaen newydd, Mrs Sian Elfryn at ein tîm.


Mae dau ddosbarth newydd wedi dymchwel a’u hail-adeiladu dros yr haf ac werth eu gweld. Mae’r Neuadd, yr ystafelloedd sy’n arwain o’r Neuadd a’r estyniad newydd yn datblygu yn dda. Edrychwn ymlaen at gael eich croesawu chi i gyd i weld ein hysgol newydd yn y dyfodol agos! Mae’n adeg cynhyrfus iawn yma!!


01/09/16 Dyddiad Cychwyn y Tymor Newydd i Ddisgyblion

O ganlyniad i waith adeiladu sylweddol, bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Iau, Medi 8fed. Diolch.

 

15/07/16 Ynys Enlli

childrenTreuliodd plant Blwyddyn 5a6 ddiwrnod i’r brenin ar Ynys Enlli yn ddiweddeddar. Dyma ymweliad cyntaf amryw o’r plant â’r ynys a chawsom fodd i fyw yn mwynhau gwefr y teithiau ar gwch melyn Colin, dysgu am hanes a bywyd gwyllt yr ynys gyda swyddogion addysg yr Ymddiriedolaeth a Mr Elfed Gruffydd,crwydro o gwmpas i weld y goleudy, ysgol, tai, capel ac ati a chwrdd â’r degau o forloi swnllyd oedd yn torheulo ar y creigiau! Mae’r lluniau yn dweud y cyfan!
Cliciwch yma am fwy o luniau.


14/07/16 Trip Gelli Gyffwrdd

childrenMwynhaodd plant blwyddyn 2,3,4,5 a 6 ddiwrnod gwych o antur a sbort yn Gelli Gyffwrdd.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


05/07/16 Cystadleuaeth Bwgan Brain

childrenCynhaliwyd cystadleuaeth creu bwgan brain gan Gyfeillion Ysgol Llanbedrog a cawsant eu beirniadu gan yr artist, Elin Huws, ar ddiwedd ein mabolgampau ysgol. Difyr iawn oedd gweld yr holl fersiynau gwahanol, pob un yn arbennig, gyda chymeriad ei hun! Llongyfarchiadau i Sion Williams a ddaeth yn fuddugol gyda’i glamp o fwgan brain. Enillodd docynnau anrheg Petal a Pot a’r Den.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


06/07/16 Trip Fferm y Foel

disgyblionEleni fe aeth plant y Cyfnod Sylfaen ar drip i Fferm y Foel Sir Fon. Yno bu'r plant yn bwydo'r anifeiliaid gwahanol ac yn mwynhau trip traws gwlad ar y 'quad' a thu ôl i'r tractor.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


01/07/2016 Mewn Cymeriad

disgyblionI ddathlu Canmlwyddiant geni Roald Dahl fe ddaeth Alf i'n diddanu gyda detholiad byw o bump o lyfrau adnabyddus yr awdur enwog. Cawsom fore llawn hwyl a chwerthin gan ddefnyddio ein dychymyg i ddod a cymeriadau y straeon yn fyw.
Cliciwch yma am fwy o luniau.


24/06/2016 Gemau Buarth a Rhigymau Sgipio

disgyblionGemau buarth a dysgu rhigymau oedd i gloi Wythnos Cymru Cwl yn Ysgol Llanbedrog, pawb yn mwynhau chwarae gemau traddodiadaol er mwyn cadw yr iaith yn fyw. Cliciwch yma am fwy o luniau


23/06/2016 Disgo Cwl Cymru!

disgyblionCawsom brynhawn gwych o gerddoriaeth Gymraeg ddoe, dawnsio disgo a dawsnio gwerin! Roedd miwsic Meic Stephens, Frizbee, Patrobas, Y Chwedlau, Bryn Fon, Mirain Evans a Gwibdaith Hen Fran i'w clywed dros y Neuadd a phawb wrth eu boddau! Daeth Gaelle draw yn y bore i beintio gwynebau disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn barod at y disgo. Roedd pawb yn edrych yn ffantastic!! Cliciwch yma am fwy o luniau


22/06/16 Wythnos Cymru Cwl - Patrobas

disgyblionPrynhawn arbennig yn llawn hwyl a chanu yng nghwmni Patrobas! Roedd pawb wrth eu boddau yn canu alawon Cymreig, diolch yn fawr i Iestyn, Wil a Gruff am ein diddori. Llongyfarchiadau mawr i Iestyn ar ennill Coron Eisteddfod Yr Urdd Y Fflint! Roedd y goron werth ei gweld, diolch am ddod a hi i ddangos! Cliciwch yma am fwy o luniau


21/06/2016 Wythnos Cymru Cwl - Mari Gwilym

disgyblionAm fore llawn hwyl! Daeth Strempan i'n gweld!!!! Hi Hi!!! Cawsom sesiwn stori gyda Mari Gwilym, dywedodd hanesion di-ri a darllenodd stori Corwynt i ni. Am hwyl!! Mae'n braf gweld bod storiau Gwlad y Rwla yn parhau i fod gymaint o hwyl hyd heddiw a hwythau wedi eu cyhoeddi gyntaf 33 o flynyddoedd yn nol! Y clasuron yw'r gorau!! Cliciwch yma am fwy o luniau


21/06/2016 Wythnos Cymru Cwl - Morgan Jones Sgorio

morgan jonesFel rhan o'n dathliadau Wythnos Cymru Cwl daeth Morgan Jones cyflwynydd y rhaglen Sgorio ar S4C i'r ysgol i siarad am ei yrfa a sawl drws mae'r iaith Gymraeg wedi agor iddo ar hyd y blynyddoedd. Cawsom weld lluniau arwyr byd peldroed a oedd wedi eu cyfarfod ar hyd y blynyddoedd, sêr fel David Beckham, Ronaldo a Gareth Bale. Dywedodd wrth bawb bod dilyn eich breuddwydion pan yn blant yn eich arwain i yrfa yr ydych wir yn ei fwynhau. Cliciwch yma am fwy o luniau


20/06/2016 Wythnos Cymru Cwl - Pel droed gyda Barry Evans

disgyblionCawsom ymarfer ein sgiliau pel droedio dan arweiniad rheolwr tîm ieuenctid Pwllheli Barry Evans yn y Ganolfan Hamdden ar brynhawn cynhyrfus o flaen gêm cymru yn erbyn Rwsia. Cafodd pawb fodd i fyw yn cicio, driblo a sgorio! Pwy a wyr, efallai y bydd aelodau tîn Cymru y dyfodol yn ein plith! #gyda'ngildd #Euro2016 Cliciwch yma am fwy o luniau


20/06/2016 Wythnos Bwyta'n Iach

disgyblionFel rhan o weithgareddau Wythnos Bwyta'n Iach mae plant y Cyfnod Sylfaen wedi bod wrthi yn brysur yn dysgu am y blas bwyd a chael balans o fwydydd i greu diet cytbwys. Cafodd pawb brynhawn difyr yn dysgu am wahanol ffrwythau a chreu cebabs ffrwythau lliwgar a oedd werth eu gweld. Daeth Anti Susan atom hefyd i ddangos i ni sut i wneud bara, a cawsom hwyl yn tylino cyn siapio y does i greu bara diddorol iawn. Cliciwch yma am fwy o luniau


13/06/2016 Hwylio

disgyblionMehefin 8fed, 2016 - Diolch i Ken, Nicholas a Chloe o CHIPAC cafodd deg o blant bwlyddyn 5a6 ddiwrnod i’w gofio yn hwylio yn Glandon, Pwllheli.

Cliciwch yma am fwy o luniau


13/06/16 Glanllyn Blwyddyn 5
Mwynhaodd plant Blwyddyn 5 dri diwrnod a dwy noson llawn hwyl, cyffro ac antur yng Nghwersyll yr Urdd Glanllyn rhwng Mehefin 6-8 yng nghwmni ffrindiau newydd o Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Nefyn.
Cliciwch yma i weld y luniau


13/06/16 Trip Caerdydd Blwyddyn 6

disgyblionWel dyma drip i’w gofio; tri diwrnod llawn o brofiadau gwych a llawer iawn o hwyl (Mai 16-18 2016). Cychwynom am 8:30 for Llun, yng nghwmni plant Blwyddyn 6 Ysgolion Pentreuchaf, Nefyn, Sarn Bach a Chwilog a chyrhaeddom yn ôl yn hapus, ond blinedig ar y nos Fercher. Yn ystof y trip cawsom flas go iawn o’n prifddinsa drwy ymweld â’r nofio, ymweld â senedd Cymru, Techniquest, Stadiwm y Principality/Mileniwm, Amgueddfa Genedlaethol, sinema, lle bowlio, bwyta Strada, ymweld â chanol y ddinas (stryd a siopau, marchnad Caedrydd, castell …) yn ogysal â mynd am drip mewn cwch cyflym yn y Bae. Roedd werth mynd yr holl ffordd! Roedd yn drip i’w gofio ar ddiwedd cyfnod Blwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd.

Cliciwch yma am fwy o luniau


10/06/2016 Y Parc

disgyblionFel rhan o waith daearyddiaeth y tymor, fe fu blynyddoedd 3 a 4 yn ymgymeryd â gwaith maes ym mharc y pentref. I ddechrau rhaid oedd gwneud arolwg sbwriel yn y parc gan fynd ati wedyn i ysgrifennu llythyr at y cynghorydd lleol i ddatgan ein pryderon am gyflwr y parc. Yn dilyn hyn, ymunodd y cynghorydd Angela Russell â ni a Chadw Cymru’n daclus i lanhau y parc. Derbynom ateb drwy lythyr gan y Cyngor Cymuned. Aethpwyd ati greu posteri newydd i annog y cyhoedd i ofalu am y parc. Roedd y posteri yn werth eu gweld ym mharc y Pentref.

Cliciwch yma am fwy o luniau


10/06/2016 Plas Menai

4 plentynFe dreuliodd blynyddoedd 3 a 4 ddau ddiwrnod llawn antur ym Mhlas Menai fis Ebrill 21ain a 22ain. Cafodd pawb gyfle i ddringo, caiacio, hwylio, canwio a rhwyf fyrddio yn sefyll. Roedd pawb wedi blino’n lân ar ôl dau ddiwrnod bythgofiadwy!

Cliciwch yma am fwy o luniau


10/06/2016 Coleg y Bala

disgyblionRoedd dathlu gwyl y Pasg yng Ngholeg y Bala yn brofiad arbennig iawn. Cyflwynwyd neges y Pasg drwy chwarae rôl digwyddiadau allweddol y stori megis y swper olaf, gardd Gethsemane, y croeshoeliad a’r atgyfodiad. Roedd y croeso yng Ngholeg y Bala yr un mor gynnes a chroesawys ag erioed.

Cliciwch yma am fwy o luniau


16/05/2016 Sgiliau Nofio

childrenLlongyfarchiadau i bawb sydd wedi derbyn tysgysgrif am eu Sgiliau Nofio.


Y Den

Cawsom y fraint o fynd i'r Den ym Mhwllheli cyn i'r ardal chwarae meddal agor yn swyddogol i'r cyhoedd. Cafodd pawb brynhawn ffantastig yn gwibio i lawr y llithren, yn neidio mewn i'r pwll peli a drigo drwy dwneli a rhwydi gwahanol. Roedd pawb yn chwys domen ac yn wên o glust i glust.


Diolch yn fawr iawn i staff y Den am y cyfle a dymunwn pob llwyddiant yn y fenter newydd. Cliciwch yma i weld y lluniau

 

03/03/2016 Diwrnod Y Llyfr

childrenRoedd hi yn ddiwrnod y Llyfr yn Ysgol Llanbedrog heddiw! Daeth pawb i’r ysgol wedi gwisgo fel cymeriadau o lyfrau darllen. Roedd pawb yn edrych werth chweil. Cawsom hwyl yn tynnu hunluniau gyda llyfrau, edrychwch ar ein cyfrif Trydar! #hunlyfr

Cliciwch yma am fwy o luniau


03/03/2016 Mr Lance Owen o’r Gwasanaeth Tan

childrenDaeth Mr Lance Owen o’r Gwasanaeth Tan i’r ysgol i drafod diogelwch a phwysigrwydd cael larwm tan yn y ty. Cawsom Stori am Tanni a pha mor bwysig ydi dysgu ein cyfeiriad a chod post rhag ofn y byddwn ei angen mewn argyfwng.

Cliciwch yma am fwy o luniau


02/03/2016 Nel Del o Elusen Awyr Iach

childrenDaeth Nel Del o Elusen Awyr Iach i’r ysgol heddiw i ddiolch i blant y Cyfnod Sylfaen am brynnu adnoddau gwerth chweil i Ystafell Chwarae Ward Dewi. Yn dilyn sioe Nadolig y plant fe benderfynodd y dosbarth y byddant yn dymuno i’r elw fynd at adnoddau i blant a oedd yn treulio amser ar Ward Dewi oherwydd gwaeledd. Llwyddwyd i gasglu £148 o bunnoedd ac roedd Nel Del wrth ei bodd gyda’r holl degannau. Gobeithio y bydd plant Ward Dewi yn mwynhau chwarae gyda’r tegannau newydd.

Cliciwch yma am fwy o luniau


01/03/2016 Dydd Gwyl Dewi

childrenBu disgyblion y Cyfnod Sylfaen wrthi yn brysur yn dathlu Dydd Gwyl Dewi drwy goginio bwydydd traddodiadol Cymreig, cawsom Gawl Cennin bendigedig a Chacenni Cri werth eu gweld. Rydym wedi cael mwynhad mawr o ddysgu am holl draddodiadau Cymru gan ddathlu dydd Gwyl ein Nawddsant.

Cliciwch yma am fwy o luniau


25/02/2016 Gwilym Bowen Rhys

childrenCawsom brynhawn o hwyl a chanu gyda’r amryddawn Gwilym Bowen Rhys, fe fu pawb yn canu hen alawon Cymreig yn barod ar gyfer perfformio yn y Pared Dewi Santy m Mhwllheli Dydd Sadwrn.

Cliciwch yma am fwy o luniau a fideos


29/01/2016 JAMBORI TAG

childrenBu disgyblion Bl 5 a 6 ym mhentref gwyliau Greenachers, Morfa Bychan fore Iau, Ionawr 20fed i weld rhai o sêr S4C yn perfformio a ffilmio Sioe Jambori Tag. Roedd yn fore, llawn hwyl, difyr dros ben yng nghwmni Owain, Mari, Anni, DJ Sal o’r rhaglen Stwnsh, yn ogystal â’r grwp pop ifanc ‘Storm’.

Cliciwch yma am fwy o luniau


15/01/2016 Tysgysgrif am sgiliau dŵr

childrenDa iawn i bawb a gafodd dysgysgrif am eu sgiliau Dŵr.


15/01/2016 Gwasanaeth Naomi

womanDaeth Naomi draw gyda stori ddifyr am Eliffant Llygoden a'i anturiaethau yn y tywydd mawr. Diolch am rannu neges bwysig gyda ni.


11/01/2016 Tystysgrifau Presenoldeb Da

plantDa iawn bawb sydd wedi derbyn tysgysgrif am eu presenoldeb yn ystod tymor y Gaeaf!

plant

 

 

18/12/2015 Diwrnod Siwmperi Nadolig

childrenRoedd hi’n ddiwrnod Siwmperi Nadolig i gefnogi elusennau Achub y Plant, Gofal Cancr Macmillan a Text Santa. Fe roddodd pawb gyfraniad am wisgo eu siwmper a roedd teimlad Nadoligaidd iawn yn yr ysgol!


17/12/2015 Cartref y Pwyliaid

childrenAeth criw o’r ysgol i Gartref y Pwyliaid ym Mhenros i canu a diddanu yn preswylwyr gyda chaneuon Nadoligaidd. Cafodd pawb fwynhad mawr o wrando ar y plant. Wesolych Świąt i bawb!


16/12/2015 Diogelwch y Ffyrdd

childrenDaeth Shirley, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd draw atom i gyhoeddi ennillwyr y gystadleuaeth i ddylunio arwydd ar gyfer arwyddion ffordd newydd a fydd yn cael eu gosod ar y ffordd tu allan i’r ysgol yn y flwyddyn newydd. Dywedodd bod safon y ceisiadau yn uchel iawn a bod dewis ennillwyr wedi bod yn dipyn o sialens! Yn fuddugol oedd y plant yma, da iawn chi! Edrychwn ymlaen i weld eich gwaith ar y ffordd yn fuan!


16/12/2015 Cinio Nadolig

childrenCawsom ginio Nadolig bendigedig o Dwrci rhost, tatws, moron, ysgewyll, panas a phys gan Anti Susan a mins pei hyfryd i bwdin. Diolch i Anti Susan, Anti Iona ac Anti Rose am eu gwaith drwy’r flwyddyn!

Cliciwch yma am fwy o luniau


15/12/2015 Sioe Nadolig Cyw

childrenCafwyd prynhawn gwerth chweil yn nghwmni Cathryn, Huw, Ben Dant, Dona Direidi, Sbarc a Cyw yn Sioe Nadolig Cyw. Roedd pawb ar eu traed yn canu a dawnsio.


14/12/2015 ‘Y Goeden Nadolig’

childrenCafwyd Sioe Nadolig werth chweil gan blant y Cyfnod Sylfaen gyda phawb yn gwneud ei gorau glas. Perfformiwyd Sioe ‘Y Goeden Nadolig’ ac fe ddysgodd pawb am hud y Nadolig Cyntaf. Fe fydd elw raffl a thocynnau y noson yn mynd i brynu tegannau ac adnoddau ar gyfer Ystafell Chwarae i blant ar Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd.


14/12/2015 Gwasanaeth Nadolig Cyfnod Allweddol 2

childrenCyflwynwyd neges y Nadolig mewn awyrgylch Nadoligaidd yn eglwys Sant Pedrog, nos Lun, Rhagfyr y 7fed. Roedd yr eglwys yn llawn i’r ymylon gyda band Pwllheli yn cyfeilio i’r carolau cynulleidfaol. Llongyfarchiadau i’r palnt ar wasanaeth traddodiadol gwefreiddiol


14/12/2015 Eglwys Botwnnog – Taith i Fethlehem

childrenBu disgyblion blynyddoedd 2 a 3 yn gwrando ar gyflwyniad stori’r geni drwy law yr Eglwys Anglicanaidd yn yr eglwys ym Motwnnog. Braf oedd cael rhannu’r profiad gyda disgyblion ysgol Foel Gron.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau


14/12/2015 Diddori yr henoed

childrenCafodd disgyblion yr ysgol gyfle i rannu eu gwasanaeth Nadolig gyda thrigolion Dolwar yn y cartref a thrigolion Plas Hafan yn nhafarn y Llong. Roedd pawb wrth eu boddau yn gwrando a chael sgwrs fach gyda’r plant.


14/12/2015 Plas Glyn Y Weddw

Cafodd ffrindiau Y Plas gyfle i wrando ar y plant yn perfformio eu carol Nadolig yn ystod eu cinio Nadolig blynyddol. Dydd Sul, Rhagfyr y 13eg, bu rhai o’r plant yn perfformio yng nghyngerdd carolau Y Plas yng nghwmni Ann Hafod, Seimon Menai a Band Pwllheli.


14/12/2015 Ymweliad P.C Owen

childrenDaeth P.C Owen at flynyddoedd 3 a 4 i drafod pwysigrwydd dangos cyfeillgarwch tuag at bawb ac fod pawb pawb yn gyfartal.


04/12/2015 Bedydd Ffug

genethod
Dydd Llun y 9ed o Dachwedd bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ymweld a Eglwys Sant Pedrog. Cafwyd croeso cynnes gan y Parchedig Andrew Jones, wrth iddo gynnal bedydd ffug yn dilyn gwaith dosbarth addysg grefyddol ar y ddefod.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau


04/12/2015 Clwb Recorder

genethod
Mae cyfnod allweddol dau wedi dechrau clwb recorder ar nos Fawrth. Cafodd pawb hwyl dda arni yn y clwb cyntaf yn dysgu caneuon bach syml. Aeth pawb adref gyda llyfr i ymarfer a recporder personol eu hunain. Edrych ymlaen nawr at y clwb nesaf!


04/12/2015 Bocsys Nadolig

genethod
Mae plant yr ysgol wedi bod yn brysur yn llenwi 34 o focsus Nadolig er mwyn cefnogi elusen Operation Christmas Child. Mae'r bocsys yn cael eu cludo ar draws y byd i sicrhau fod bob plentyn yn y Byd yn cael Nadolig Llawen! Diolch i'r disgyblion a ddaeth a bocs i'r ysgol.


04/12/2015 Y Clwb Coginio

genethod
Bu plant y cyfnod Sylfaen yn brysur yn creu hamperi Nadoligaidd blasus yn ystod y clwb coginio yr wythnos yma. Aeth pawb adref yn falch o’u gwaith ac yn edrych ymlaen i’w fwynhau yn ystod y Nadolig.


04/12/2015 Canu Carolau yn Abersoch

genethod
Nos Wener Tachwedd y 27ain bu criw o blant yn diddannu siopwyr yn Abersoch drwy ganu carolau fel rhan o weithgareddau Nadolig yn Abersoch. Braf oedd cael ymuno gyda ysgol Abersoch a Sarn Bach i ddathlu y Nadolig mewn awyrgylch gartrefol braf.


13/11/2015 Plant Mewn Angen

genethod
Daeth pawb i'r ysgol yn gwisgo eu dillad nos heddiw gan roi cyfraniad at gronfa Plant mewn angen, cawsom fwrdd gwerthu cacennau amser chwarae ac fe lwyddwydd i godi £125 tuag at yr achos.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


12/11/2015 Portmeirion

genethod
Cafodd blynyddoedd 3 a 4 gyfle i ymweld a phentref Portmeirion fel rhan o astudiaethau Daearyddiaeth y tymor. Bu pawb yn bysur yn astudio'r adeiladau, y tirwedd o gwmpas a chwblhau gwaith cyfeiriadau cwmpawd.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


02-04/11/2015 Plas Glyn y Weddw

genethod
Bu cyfnod allweddol 2 yn astudio gwaith yr artist John Piper ym Mhlas Glyn y Weddw. Yn dilyn hyn cafwyd gweithdy celf gyda Haf Neale a chyfle i farddoni gyda Twm Morys.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


26/10/2015 Sialens yr Haf

genethod
Llongyfarchiadau i bawb a gafodd fedal am ymweld a'r llyfrgell yn ystod yr haf.


16/10/2015 Diwrnod Shwmae Sumae

genethod
Rydym wedi bod yn mwynhau dathlu ein gallu i siarad Cymraeg drwy gefnogi diwrnod Shwmae Sumae. Gwisgodd bawb dillad Coch, gwyrdd a gwyn i ddod i'r ysgol. Cawsom gwis lluniau Cymry enwog a chinio Cymreig bendigedig. Edrychwch ar Heno am 7 i weld ein lluniau!
#Shwmaesumai

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


02/10/2015 Taith Gerdded Yr Wyddfa

genethod
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


30/09/2015 Y Brodyr Gregory

genethodDaeth y Brodyr Gregory i’r ysgol gyda Ted Taclus ac Eli Eco i’n diddori gyda chaneuon a dawns am Arbed, Ailddefnyddio ac Ailgylchu. Cawsom brynhawn wrth ein bodd o ganu a mwynhau. Daeth y Cynhorydd Angela Russel atom hefyd i ymuno yn yr hwyl.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


29/09/2015 Clwb Cadw’n Heini

genethodMae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wrthi yn brysur yn cadw yn heini yn y clwb ar ôl ysgol. Maent wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda phawb yn chwys domen ac yn wen o glust i glust ar ddiwedd bob sesiwn!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


28/09/2015 Paid cyffwrdd dweud

genethodDaeth Libby, Stuart a Timi y parot o gwmni ‘Paid Cyffwrdd Dweud’ atom i roi sioe hud a lledrith werth chweil i’n hatgoffa o beryglon hylifon a meddygyniaethau a all fod o gwmpas y ty. Cafodd pawb fwynhad mawr o’u gwylio yn gwneud triciau gan ddysgu gwers bwysig iawn.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


28/09/2015 Gwasanaeth Nia o Coleg y Bala

genethodDaeth Nia atom a chynnal gwasanaeth llawn hwyl a chanu, daeth Lewis heibio hefyd i rannu hanesion ei helyntion. Braf iawn oedd gweld Nia eto, brysiwch yn nol yn fuan!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


28/09/2015 Jam Poeth

genethodYn dilyn ein prynhawn o gasglu mwyar duon cawsom ddysgu gan Anti Carys sut i wneud jam gyda’n ffrwythau blasus. Roedd yn rhaid i ni baratoi y ffrwythau a chael gwared o unrhyw bryfaid bach ac yna eu pwyso cyn eu berwi ar y tân. Bu pawb wrthi yn creu label a gorchydd unigryw i’w potyn ac aeth pot adref i gartref pawb i’w rannu gyda’r teulu.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


28/09/2015 Clwb Coginio

genethodMae ein clwb coginio yn parhau i fod yn boblogaidd iawn gyda phawb yn mwynhau creu bwydydd blasus a maethlon. Roedd pawb wrth eu boddau yn gwneud pitsa llysiau lliwgar a chrymbl afal blasus.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


28/09/2015 Casglu mwyar duon

genethodFel rhan o’n gwaith themau y tymor hwn fe aeth y dosbarth o gwmpas tir yr ysgol ac ar hyd llwybr cyfagos i gasglu mwyar duon. Cafodd pawb brynhawn bendigedig wrthi yn brysur yn casglu mwyar duon ac roedd ambell i dafod a llaw biws erbyn amser mynd adref!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


21/09/2015 Presenoldeb Gwych!

genethodLlongyfarchiadau mawr i griw am lwyddo i gyrraedd targed presenoldeb yr ysgol o 95% yn 2014-15 ac i un ferch am gael presenoldeb arbennig o 100%. Gwych!




21/09/2015 Tystysgrifau

plantLlongyfarchiadau i'r plant sydd wedi derbyn tystysgrif Newyddion Da yr wythnos hon. Da iawn chi!

08/07/2015 Glan Llyn

genethodCafodd pedair geneth o flwyddyn 5 gyfle i fwynhau dau ddiwrnod o brofiadau a gweithgareddau amrywiol yng Ngwersyll Glan LLyn ar yr 8ed o Fehefin. Cawsant ddyddiau prysur dros ben ar y cwrs rhaffau, wal ddringo, adeiladu rafft, caiacio a saethyddiaeth, gan wneud ffrindiau newydd gyda disgyblion Ysgolion Nefyn a Phentreuchaf.


07/07/2015 P’nawn Hwyl Fawr

Mwynhawyd prynhawn llawn hwyl yn yr ysgol i ffarwelio â disgyblion Blwyddyn 6. Yng nghanol miri’r prynhawn bu tri tŷ yr ysgol Henllys, Pedrog a Cwmwd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cystadleuol allan ar yr iard, gyda Henllys yn dod i’r brig. Yn dilyn hyn bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn gweithio’n galed wrth eu stondinau amrywiol yn gwerthu cacennau, peintio wynebau ac ati.


02/07/2015 Taith Gerdded

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar ein taith gerdded flynyddol i lan y mor Ty’n Tywyn. Roedd criw arbennig o dda wedi ymgynnull yn yr ysgol i fynd ar y daith. Cafwyd lluniaeth ysgafn ac amser i gymdeithasu a chwarae ar lan y mor cyn cychwyn am adref.


15/06/2015 Criced

plant

Rydym yn falch iawn dîm criced yr ysgol yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth ym Modegroes gan fynd drwodd i’r rownd derfynol ar y 23ain. Yn ogystal, enillom y gwpan ‘Cricket Spirit’ gan eu bod wedi chwarae yn arbennig o dda fel tîm ac ymddwyn mor fanesol tuag at aelodau o’r timau eraill. Da iawn chi, gwych!

 

 

 

 


01/06/2015 Mewn Cymeriad

imageCafodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gyfle i ymuno mewn sioe hwyliog ‘Mewn Cymeriad’ gyda un o'r teithwyr, William Jones ar ei siwrnai i Batagonia yn 1865. Cafodd y plant eu cludo yn ôl mewn amser i brofi caledwch bywyd yng Nghymru yn 1865; clywyd am obaith mawr cynllun Michael D. Jones; profwyd hwyl a'r trasiedi ar fwrdd y Mimosa, yn ogystal â'r realiti oedd yn ei disgwyl y Cymry truenus ar lannau Patagonia. Daeth yr hanes yn fyw ac fe gafodd pawb fwynhad mawr.

 

 


20/05/2015 Plas Glyn Y Weddw – Arddangosfa Patagonia 150

Bu disgyblion Cyfnod Allweddol Dau ym Mhlas Glyn y Weddw yn gweld yr arddangosfa sydd yn dathlu canrif a hanner ers i’r ymfudwyr cyntaf gyrraedd y Wladfa ym Mhatagonia. Gwelwyd gwaith Luned Rhys Parri a fu ar ymweliad a Phatagonia yn ddiweddar, ynghyd a gwaith gan chwech o artistiaid eraill yr Oriel. Cafodd pawb gyfle i ymchwilio i nodweddion, enwau gywybodaeth Gymreig o fewn y lluniau drwy lenwi cwis ar y thema Patagonia.


19/05/2015 Priodas Ffug

imageCafwyd diwrnod i’w gofio mewn priodas ffug yn Eglwys Sant Pedrog. Bu blynyddoedd tri a phedwar wrthi’n brysur yn trefnu cyn y diwrnod mawr, gwneud cardiau, gwahaoddiadu, trefn y gwasaneth, astudio a gwrando ar gerddoriaeth addas. Y Parchedig Andrew Jones fu’n gwasanaethu gyda Mrs Shirley Pritchard ar yr organ. Bu cryn llythyru ac e-bostio ymlaen llaw er mwyn gwneud yn siwr fod popeth yn berffaith ar gyfer diwrnod mawr Leus a Max. Roedd y wledd yn un fythgofiadwy, cinio rhost agn Anti Susan a chacennau bach wedi eu gwneud gan y plant.

 


18-20/5/15 Trip Caerdydd Blwyddyn 6

imageMwynhaodd plant Blwyddyn 6 dridiau gwerth chweil yn y brifddinas yng nghwmni cyfoedion o ysgolion Nefyn, Sarn Bach, Pentreuchaf a Chwilog. Arhosom yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm a buom Nhechniquest, Stadiwm y Mileniwm, sinema, pwll nofio, Amgueddfa y Glannau yn ogystal â mwynhau profiad a hanner ar gwch cyflym ym Mae Caerdydd a bwyta hufen iâ Cadwaladers neu ddau, neu dri . . . !

 

 


29/04/2015 Pili Palas

plant

I gydfynd â gwaith ar thema Yr Ardd, bu plant y Cyfnod Sylfaen yn Ynys Môn yn ymweld â Pili Palas. Yno roedd cyfleoedd i ddysgu am gylch bywyd y pili pala ynghyd â chreaduriaid eraill yr ardd. Cawsom ddiwrnod arbennig, llawn hwyl ac antur.

 

 

 



23/4/15 Taith Gerdded yr Wyddfa

imageLlwyddodd plant Blwyddyn 5a6 i gerdded yr holl ffordd i gopa’r Wyddfa, i fyny Llwybr y Pyg ac i lawr Llwybr Cwellyn. Cawsom ddiwrnod i’r brenin; yr haul yn gwenu, y golygfeydd yn odidog a phob copa walltog yn ymderchu yn galed a di-lol hefo gwên ar eu wynebau yn benderfynol o lwyddo yn yr her. Da iawn chi i gyd, dipyn o gamp!

 

 

 

 

sponsor logos noddwyr

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd
© 2023 - Ysgol Llanbedrog ~ Gwefan gan Delwedd