Gwybodaeth

I lawrlwytho copi o'r llawlyfr fel pdf, cliciwch yma.


Bydd pob plentyn o flwyddyn Derbyn i 6 yn derbyn dwy wers addysg gorfforol wythnosol.



Tymor yr Hydref a Tymor y Gwanwyn


Dosbarth Y Winllan (Derbyn) / Dosbarth Carreg y Defaid (Bl 1a2)

  • Dydd Mercher a Dydd Gwener- dillad ac esgidiau chwaraeon

Dosbarth Tyn Tywyn (Bl 3a4) / Dosbarth Tir y Cwmwd (Bl 5a6)

  • Dydd Llun – dillad ac esgidiau chwaraeon
  • Dydd Gwener - gwisg nofio/ tywel/gogls

Bydd Bl 3-6 yn mynd i ganolfan hamdden Byw yn Iach Dwyfor ar brynhawniau Gwener. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £3.00 yr wythnos gan bob plentyn sydd y mynd i'r ganolfan hamdden i helpu i dalu am gostau’r bws. Mae’r ysgol yn talu am y gwersi yno. Diolch.



Tymor yr Haf


Dosbarth Y Winllan (Derbyn) / Dosbarth Carreg y Defaid (Bl 1a2)

  • Dydd Mercher - dillad,ac esgidiau chwaraeon
  • Dydd Gwener - gwisg nofio/ tywel/gogls

Bydd Bl D-2 yn mynd i ganolfan hamdden Byw yn Iach Dwyfor ar brynhawniau Gwener. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £3.00 yr wythnos gan bob plentyn sydd y mynd i'r ganolfan hamdden i helpu i dalu am gostau’r bws. Mae’r ysgol yn talu am y gwersi yno. Diolch.

Dosbarth Tyn Tywyn (Bl 3a4) / Dosbarth Tir y Cwmwd (Bl 5a6)

  • Dydd Llun a Dydd Gwener – dillad ac esgidiau chwaraeon

Cyflwynir Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel rhan o feysydd dysgu a phrofiad ar draws yr ysgol. Ymdrinnir â’r maes mewn ffordd sensitif a synhwyrol yn unol ag oedran ac anghenion. Mae ACaRh yn helpu’r dysgwyr i:

  • gefnogi eu iechyd a’u lles.
  • ddatblygu cydberthnasau iach, diogel a boddhaus o bob math, gan gynnwys gyda theulu, ffrindiau ac ymhen amser cydberthansau rhamantus a rhywiol.
  • ddeall a gwneud synnwyr o’r ffordd y mae cydberthansau, rhyw, rhywedd a rhywioldeb yn llywio eu hunainaeth a’u bywydau eu hunain a rhai pobl eraill.
  • ddeall a chefnogi eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill i fwynhau cysberthansau teg, diogel, iach a boddhaus gydol eu bywydau ac eirioli dros yr hawliau hynny.

Mae ACaRh yn y Cwricwlwm yn canolbwyntio ar dri llinyn:

  • Cydberthynas a Hunaniaeth: helpu dysgwyr feithrin sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu cydberthnasau iach, diogel a boddhaus gydag eraill a’u helpu i wneud synnwyr o’u meddyliau a’u teimladau.
  • Iechyd Rhywiol a Lles: helpu dysgwyr droi at ffynonellau ffeithiol am eu iechyd a’u lles rhywiol ac atgenhedliol i allu gwneud penderfynaidau gwybodus gydol eu bywydau.
  • Grymuso, Diogelwch a Pharch: hepu i amddiffyn dysgwyr rhag pob math o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod a’u galluogi i adnabod cydberthnasau a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol, gan eu helpu i wybod pryd, sut a ble i ofyn am gymorth a chyngor.

Nodir mewn canllawiau cenedlaethol bod gan un disgybl ym mhob pump ADY o rhyw fath. Yn y cyd-destun hwn mae gennym Bolisi ADYaCh sydd yn seiliedig ar ofynion deddfwriaethol a Chanllawiau Gweithredu Awdurdod Addysg Gwynedd.

Y Pennaeth sydd â’r cyfrifoldeb terfynol dros y polisi a Mrs Manon Haf Owen yw Cyd-lynydd ADYaCh yr ysgol ac mae gennym lywodraethwr dynodedig ADYaCh.

Rhoddir plant ar Gofrestr ADY yr ysgol yn ôl yr angen, ar gamau gwahanol yn ôl dwyster eu hangen. Bydd y ddarpariaeth wahanol a drefnwn ar eu cyfer yn amrywio o gymorth ychwanegol yn y dosbarth, cymorth unigol neu grŵp bach tu allan i’r dosbarth, cyngor gan y Seicolegydd Addysg, cymorth arbenigol a ddarperir gan yr Awdurdod Addysg yn yr ysgol neu leoliad mewn uned oddi ar safle’r ysol. Bydd pob darpariaeth a wneir yn cael ei drafod a’i gytuno gyda rhieni a’r plentyn cyn ei weithredu ac yn cael ei adolygu yn rheolaidd.

Ein nod fel ysgol yw cynnig arweiniad a darpariaeth a fydd yn gweddu i anghenion pob plentyn trwy gydol ei gyfnod yn Ysgol Llanbedrog. Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglŷn â datblygiad eich plentyn neu weinyddiad y Polisi ADYaCh cysylltwch ag athrawes eich plentyn neu’r Pennaeth.

Yn unol â gofynion y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol rydym wedi cynllunio dull manwl o asesu ac adrodd i rieni. Rydym yn asesu’r plant yn barhaol yn holl feysydd a phynciau’r Cyfnod Sylfaen / Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd yr asesiadau yn cael eu cofnodi'n fanwl ac ar gael i athrawon yr ysgol. Darperir adroddiad cynhwysfawr i rieni ar holl raglen waith y disgyblion ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Yn ôl gofynion statudol bydd asesiadau athro diwedd y Cyfnod Sylfaen (Blwyddyn 2) yn cael eu pennu a bydd lefel cyrhaeddiad pob disgybl yn y meysydd canlynol yn cael eu cofnodi

  • Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Datblygiad Mathemategol

Yn ôl gofynion statudol bydd asesiadau athro diwedd Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 6) yn cael eu pennu a bydd lefel cyrhaeddiad pob disgybl yn y pynciau craidd canlynol yn cael eu cofnodi

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth

 

Pe bai raid cau’r ysgol mewn argyfwng byddai’r staff yn gwneud eu gorau i gysylltu â chi yn uniongyrchol. Mae’n hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r ysgol pe bai eich manylion cyswllt megis rhif ffôn yn newid.

Mewn argyfwng megis tân, y man ymgynnull argyfwng Neuadd y Pentref.

Pe bai raid cau’r ysgol oherwydd tywydd garw gofynnir i chi gadw golwg ar wefan yr ysgol neu wefan Cyngor Gwynedd - cliciwch yma, neu trwy wrando ar bigion newyddion Radio Cymru neu Heart.

 

Cinio Ysgol

Mae pob disgyblion Dosbarth Derbyn at Flwyddyn 6 yng Nghymru yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.

Anogir pob disgybl i gymryd prydau ysgol ar ddechrau’r dosbarth Derbyn. Mae’r bwyd a ddarperir yn arlwy cytbwys ac iach, yn rhoi cyfle i blant brofi amrywiaeth o fwydydd balsus a bwyta yn daclus gyda chyllell a fforc.

Am fwy o wybodaeth a bwydlen ewch i wefan Cyngor Gwynedd


Alergeddau neu Anghenion Meddygol
Os oes gan eich plentyn alergedd at fathau gwahanol o fwyd dylid cynnwys y wybodaeth ar ffurflen fynediad eich plentyn neu drwy gysylltu â’r Pennaeth. Bydd y wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i’r gogyddes.

 

Pecyn bwyd

Os nad ydych am i’ch plentyn gael cinio ysgol, gall ddod â phecyn bwyd i’r ysgol ond rhaid i hwnnw gydymffurfio gyda’r polisi ysgol, canllawiau Ysgolion Iach Gwynedd a Môn a’r Llywodraeth, h.y. dilyn y plat bwyd iach, dim fferins, dim llawer o bethau melys.

Mae’r plant i gyd yn bwyta o dan arolygaeth yn y neuadd.

Rhoddir cynnig i ddisgyblion sy’n dod a phecyn bwyd i ymuno gyda’r criw cinio ysgol ar ddyddiau arbennig megis Cinio Nadolig, Cinio Gŵyl Ddewi a Chinio Rhyngwladol.

 

Dogfennau Defnyddiol

 

Bwyta’n Iach

Mae holl ysgolion Gwynedd yn rhan o’r Cynllun Ysgolion Iach. Mae gwybodaeth am hyn ar gael ar wefan Ysgolion Iach Gwynedd.

 

Goruchwyiaeth

Mae’r plant i gyd yn bwyta o dan arolygaeth yn y Neuadd neu ystafelloedd dosbarth.


Gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i roi cyfle i bob plentyn o oedran ysgol gynradd gael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd, gyda’r bwriad o helpu i wella iechyd a gallu plant i ganolbwyntio, er mwyn helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.
Cynhelir Clwb Brecwast di-dâl, dyddiol,yn Ysgol Llanbedrog, i bob plentyn o oed ysgol. Mae’r Clwb ar agor rhwng 8:35 a 8:50 gyda brecwast yn cael ei weini rhwng 8:35 a 8:40.

Darperir dewis o rawnfwyd, tost, sudd ffrwythau a llefrith. Adran Darparu Cyngor Gwynedd sydd yn darparu’r bwyd. Goruchwylir y disgyblion gan Mrs Susan Pritchar a Miss Iona Squires. Gall plant gyrraedd yn gynt, rhwng 8:10 a 8:35 os ydynt wedi cofrestru i’r Clwb Gofal ond rhaid talu £1.00 am bob sesiwn i bob disgybl.

Os dymunwch i’ch plentyn fynd i’r Clwb Brecwast neu’r Clwb Gofal gofynnir i chi gofrestru a thalu ymlaen llaw ar School Gateway.

Dim ond plant sydd yn mynychu’r Clwb Brecwast ddylai gyrraedd yr ysgol cyn 8:50. Rhaid i bawb sydd yn dod i’r clwb fwyta brecwast yno.

 

Yn unol â gofynion Deddf Addysg 1988, mae’r Corff Llywodraethol yn derbyn na ellir codi tâl am y canlynol:

  • mynediad i’r ysgol
  • yr addysg a roddir yn ystod oriau’r ysgol
  • defnyddiau ac offer ar gyfer gwersi yn ystod oriau ysgol
  • gweithgareddau a gynhelir yn ystod oriau ysgol

Rhagwelir y trefnir rhai teithiau yn ystod oriau ysgol na fydd yn rhan hanfodol o’r gwaith cwrs, ond a fydd yn brofiad llesol i’r disgyblion. Yn ôl y Ddeddf, er nad oes gan ysgol hawl i godi tâl am deithiau o’r fath, mae ganddi hawl i:

  • ofyn am gyfraniad gwirfoddol tuag at gost o drefnu’r fath daith
  • ofyn i asiant allanol i drefnu’r daith

Heb gyfraniadau tebyg, mae’n bosibl na fydd y gweithgareddau ychwnaegol yn cael eu cynnal. Mae hawl gan y Pennaeth i ddileu gweithgaredd a drefnwyd os yw cyfraniadau isel yn golygu colled sylweddol i’r ysgol.

Awdurdodir y Pennaeth i ofyn am daliadau ar gyfer y canlynol:

  • gwersi cerdd unigol
  • gweithgareddau a gynhelir y tu allan i oriau’r ysgol yn ôl amodau’r Ddeddf
  • mewn achosion lle achosir difrod i unrhyw ran o adeiladau’r ysgol yn dilyn ymddygiad disgyblion
  • pan fydd disgybl yn colli neu’n difrodi llyfr, cyfarpar neu eiddo sy’n perthyn i’r ysgol, i aelod o staff neu ddisgybl arall

 

Mae CGaM yn seiliedig ar gyfres o gwestiynau mawr ac yn darparu cyfleoedd i gefnogi dysgwyr wrth iddynt fynd i’r afael yn feirniadol ag ystod eang o gredoau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol. Dylunwyd CMaG yn ein hysgol i roi sylw i’r Maes Llafur Cytunedig.

Rhoddir sylw i C,GaM o fewn Maes Addysgu a Phrofiad Dyniaethau ond mae hefyd yn plethu i’r MDaPh eraill.

Mae cysyniadau’n bwysig mewn C,GaM gan eu bod yn syniadau canolog sydd yn helpu dysgwyr i ddeall a dehongli profiadau dynol, y byd naturiol a’u lle hwy eu hunain ynddo. Nid oes a wnelo’r pwnc â gwneud dysgwyr yn “grefyddol” neu “anghrefyddol”.

Mae’r cynnwys yn cydfynd â chyfraith achosion Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Deddf Cwrwicwlwm ac Asesu Cymru 2021 hefyd yn nodi’r angen i ddysgwyr gael cyfleoedd drwy C,GaM i ymwneud â gwahanol safbwyntiau athronyddol anghrefyddol yn eu hardal leol, yng Nghymru a’r byd ehanach.

Ni chaniateir i neb ddod â chŵn (ac eithrio cŵn tywys) ar dir yr ysgol wrth nôl a danfon plant nac i unrhyw weithgareddau a drefnir gan yr ysgol.

 

Ein nod yn Ysgol Llanbedrog yw darparu addysg gyflawn a chwricwlwm eang i bob disgybl sicrhau fod pob plentyn yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes, ac i fod yn aelod llawn o’r gymdeithas. Hyderwn ein bod yn galluogi pob plentyn i ddatblygu i’w lawn botensial.

Mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi rhyddid i ni gynllunio ein cynnwys ein hunain yn seiliedig ar:

4 Diben

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

6 Maes Dysgu a Phrofiad

  • Mathemateg a Rhifedd
  • Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Celfyddydau Mynegiannol

Sgiliau Trawsgwricwlaidd

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Cymhwysedd Digidol

Themau Trawsbynciol

  • Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
  • Addysg Hawliau Dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • Amrywiaeth
  • Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith
  • Cyd- destunau Lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol

Mae’r Corff Llywodraethol wedi mabwysiadu polisi ynglŷn â’r drefn i’w dilyn pan dderbynir cwynion yn gysylltiedig â’r ysgol.

Ym mhob achos dylid cysylltu â’r ysgol i wneud apwyntiad i drafod unrhyw gŵyn gyda’r Pennaeth yn y lle cyntaf, neu gysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr os yw’r gŵyn am y Pennaeth.

Pwysleisir, y gellir ymdrin â llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy ystyriaeth anffurfiol yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r Pennaeth. Hwn yw’r cam rhesymol cyntaf, a bydd y Corff Llywodraethu’n disgwyl bod y cam yma wedi ei gyflawni cyn cyflwyno’r gŵyn yn ffurfiol mewn achosion eithriadol.

Nod yr ysgol yw:

  • Sicrhau yr un cyfleoedd i’r holl ddisgyblion; o bob rhyw, cefndir cymdeithasol ac anghenion addysgol
  • Meithrin agweddau cadarnahol mewn perthynas â hil a chrefydd a rhyw.
  • Osgoi cyflyru ac ystrydebu, yn enwedig mewn perthynas â’r cwricwlwm.

Mae gan yr ysgol ystod o bolisïau sy’n ymwneud â hyrwyddo cynhwysiad gwahanol ddisgyblion. Mae’r Polisi Hygyrchedd yn cyfeirio at y trefniadau i hwyluso mynediad i ddisgyblion ag anabledd. Gwneir pob ymdrech rhesymol i sicrhau nad oes neb yn cael eu trin yn llai ffafriol na disgyblion eraill.

 

Cyrraedd yr ysgol

Mae’r ysgol yn derbyn cyfrifoldeb am y plant am 10 munud cyn ac ar ôl pob sesiwn dysgu, h.y 8:50-3:25. Nid oes gan staff yr ysgol gyfrifoldeb am y plant yn swyddogol tan 8:50 a.m. felly ni ddylai plant gyrraedd yr ysgol cyn hynny. Bydd staff y Clwb Brecwast yn goruchwylio aelodau’r Clwb tan 8:50.

Gadael yr Ysgol

Dylai’r rhieni ddod i gyfarfod plant y Cyfnod Sylfaen at fynedfa’r dosbarth Cyfnod Sylfaen, plant Blwyddyn 3a4 at y brif fynedfa a phlant blwyddyn 5 a 6 at giât yr ysgol ble bydd yr athrawon yn eu danfon yn ddiogel. Unwaith bydd y plant yn cael eu trosglwyddo i oedolyn sydd yn dod i’w no lar ddiwedd dydd, mae’r cyfrifoldeb yr ysgol am y plant yn dod i ben.
Os bydd rhiant yn hwyr yn dod i nôl plentyn, bydd y staff yn mynd ag ef yn ôl i’r ysgol.Gofynnir i rieni sy’n hwyr ddod i mewn i’w nôl.
Yn naturiol, nid oes hawl gan blentyn o’r Cyfnod Sylfaen i adael tir yr ysgol heb ganiatâd a heb oedolyn i'w gyrchu. Disgwylir i’r oedolyn ofalu nad yw’r plant yn rhedeg o’u blaenau i lawr y llwybr o’r ysgol i’r brif-ffordd.
Cofiwch roi gwybodaeth i ni yn yr ysgol, yn ogystal ag i’ch plentyn, os bydd unrhyw newid yn y trefniadau arferol ar gyfer codi plant o’r ysgol.
Pan fydd teuluoedd yn chwalu, ac un o’r rhieni’n cael gofal dros y plant, mae’n bwysig ein bod yn cael gwybod am y trefniadau er mwyn osgoi sefyllfa annifyr.
Ni ellir gadael i blentyn fynd o’r ysgol yn gynnar oni bai fod rhiant yn dod i’w nôl neu fod cais ysgrifenedig yn cael ei dderbyn yn gofyn i ni anfon y plentyn adref ar amser penodol.

Cliciwch yma am ffurflen rhoi caniatád i blant gerdded o’r ysgol eu hunain

Mae gan bob aelod o staff yr ysgol ddyletswydd parhaus i warchod lles a diogelwch y plant. Mae bob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant Diogelu.

Mae’r Pennaeth, Dirprwy a’r Llywodraethwr dynodedig wedi derbyn hyfforddiant Diogelu ymestynnol.

  • Person amddiffyn plant dynodedig: Manon Haf Owen 01758 740631
  • Is-berson amddiffyn plant dynodedig: Gwyneth Lloyd Jones 01758 740631
  • Llywodraethwr amddiffyn plant dynodedig:
  • Swyddog Diogelu Plant yn yr awdurdod lleol: Bethan Helen Jones 07977504344

Pe bai gennych amheuon am ddiogelwch neu lles plant yn yr ysgol neu adref cysylltwch gydag un o’r uchod.

Rhaid i’r ysgol ymateb i unrhyw wybodaeth am les/diogelu. Dilynwn bolisiau caeth yr Awdurdod a chanllawiau Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

https://diogelu.cymru/cy/

Pe bai chi’n amau aelod o staff o faterion diogelu mae’n angenrheidiol i chi gysylltu hefo’r Pennaeth ar unwaith. Cysylltwch hefo Cadeirydd y Llywodraethwyr a’r Llywodraethwyr Dynodedig pe bai chi’n amau’r Pennaeth o unrhyw agwedd diogelu.

 

Polisi Atal Eithafiaeth a Radicaleiddio

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel

Polisi A Chanllawiau Diogelu Y Gwasanaeth Addysg

Polisi Amddiffyn Plant

Polisi Gwrth-fwlio

Canllawiau gwrth-fwlio

Mae’r ysgol a’i thiroedd yn ardal di-fwg. Ni chaniateir ysmygu ar safle’r ysgol.

 

Mae gennych hawl i gael golwg ar nifer o ddogfennau megis Polisiau yr Awdurdod Addysg, Polisiau’r Corff Llywodraethol, adroddiadau Estyn ar yr ysgol, meysydd llafur ac adroddiad blynyddol y Corff Llywodraethol. Gallwch wneud trefniant gyda’r Pennaeth ar gyfer hyn.

Mae gan yr ysgol Gynllun Cyhoeddi Cyfredol.

Wrth ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth yn yr ysgol mae’r disgyblion yn cael cyfle i ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Mae defnyddio cyfrifiaduron a chodi gwybodaeth ohono, megis o’r Rhyngrwyd, yn rhan o’r gofynion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i blant cynradd. Mae llawer o’r wybodaeth yn ddefnyddiol ac yn gymorth i waith y disgyblion a gall y disgyblion hefyd ddefnyddio E-bost i anfon negeseuon at ddefnyddwyr eraill o fewn yr ysgol ac ar draws y byd.

Yn anffodus, fodd bynnag, mae rhywfaint o’r deunydd sydd ar y Rhyngrwyd yn anaddas i blant, felly mae’r Awdurdod wedi gosod meddalwedd sydd yn hidlo a rhwystro mynediad i safleoddd anaddas yn yr ysgol. Er yn anhebygol iawn, ni ellir gwarantu’n llwyr na fydd disgyblion yn cael mynediad i safleoedd anaddas ar ddamwain.

Er hyn, credwn fod y manteision a ddaw yn sgîl defnyddio’r Rhyngrwyd yn llawer mwy na’r anfanteision. Mae’r athrawon yn goruchwilio y defnydd a wna’r disgyblion o’r Rhyngrwyd yn ystod y gwersi ac addysgir disgyblion am bwysigrwydd defnyddio’r Rhyngrwyd yn ddiogel.

Cliciwch yma i gael mynediad i wefan Schoolbeat.org.
Clicwch yma ym lyfryn Pwyllo Cyn Rhannu, NSPCC.

 

Enw da neu ddrwg arlein
Oeddech chi’n gwybod bod popeth mae eich plentyn yn ei wneud a’i rannu ar-lein yn creu darlun o’i bersonoliaeth?
Ydych chi erioed wedi meddwl am sut gallai’r hyn mae’n ei wneud ar-lein heddiw effeithio ar ei ddyfodol?
Ydych chi’n gwybod sut mae helpu eich plentyn i reoli ei hunaniaeth a’i weithgareddau ar-lein i greu enw da ar-lein?

 

Enw da neu ddrwg ar-lein (Rhieni a gofalwyr)

  • poster saesneg parental controls on android phone
  • poster saesneg parental controls on iphone

Ymfalchïwn yn y ffaith bod rhieni ac ymwelwyr â’r ysgol yn cydnabod yr ymdeimlad o gyfeillgarwch a threfn sy’n bodoli yma, a’r modd y bydd disgyblion newydd yn ymgartrefu’n hapus.

Ceir awyrgylch symbylus a gweithgar yn y dosbarthiadau yn seiliedig ar gydberthynas o barch a gofal. Mae hyn yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu hunan hyder ag agwedd bositif at ddysgu. Disgwylir safon uchel o ymddygiad ac ymroddiad ar bob achlysur. Ceir ymdeimlad da o gydweithio ac anogir pob disgybl i dderbyn a rhannu cyfrifoldebau amrywiol.

 

Rhoddir pob plentyn yng ngofal athro/athrawes ddosbarth, ond ceisia’r staff cyfan ymorol am les yr holl ddisgyblion. Mae’r ysgol hon yn annog plant i fod yn hunan-ddisgybledig, yn gyfrifol ac i ddangos parch at eraill a chawn gefnogaeth rhieni yn hyn o beth.

Mae gofal bugeiliol yn rhan o wasanaeth pob athro, a dyma rai o’r dyletswyddau:-

  • Cofrestru eu grwpiau er mwyn monitro prydlondeb a phresenoldeb.
  • Hysbysu’r Pennaeth o unrhyw bryderon am waith ysgol, lles, presenoldeb neu ymddygiad.
  • Cyflwyno pob gwybodaeth angenrheidiol a llythyrau i’r plant fynd adref.
  • Cyfarfod â’r rhieni yn ystod Nosweithiau Rhieni
  • Paratoi adroddiadau i’r rhieni ar ddiwedd blwyddyn ysgol ar ddatblygiad eu plant

Rhoddir gwybodaeth reolaidd am weithgareddau’r tymor trwy’r Digwyddiadur, calendr digwyddiadau ar y wefan neu anfon neges drwy system decstio ac ebost. Mae’r holl ohebiaeth yn ddwyieithog. Gofynnir yn garedig i chi ddarllen pob gohebiaeth.

 

Mae sicrhau diogelwch y plant a chadw safon dderbyniol o drefn a rheolaeth yn cael bri gennym.

Gweithredwn drefniadau goruchwylio plant gan yr athrawon a’r gweinyddesau yn ystod y cyfnodau isod:

  • Cyn dechrau’r ysgol (8.50 – 9.00)
  • Egwyl y bore
  • Egwyl y prynhawn
  • Diwedd y prynhawn (3:15-3:25)

a) Trefniadau Tywydd Sych
Gweithredir y goruchwylio drwy system rota dyddiol. Bydd y staff ar ddyletswydd yn goruchwylio’r buarth drwy gydol y cyfnod. Gwneir trefniadau i gyflenwi pan fo aelod o staff yn absennol.

b) Trefniadau Tywydd Garw
Ar gyfnodau o dywydd garw, yr athrawon dosbarth fydd yn gyfrifol am baratoi gweithgaredd i’r plant a’r staff ar ddyletswydd i’w goruchwylio yn ystod yr egwyl.

c) Trefniadau Amser Cinio
Goruchwylir plant gan tair oruchwylwraig. Ar ôl i’r plant orffen bwyta, mae’r goruchwylwyr yn mynd allan gyda’r plant ac yn eu goruchwylio ar y buarth hyd amser dod i mewn. Byddent yn cael eu cefnogi gan gymorthyddion y Cyfnod Sylfaen a chymorthyddion ADY. Yn ystod tywydd garw, byddant yn goruchwylio’r plant yn eu dosbarthiadau.

 

 

Datganiad Grant Datblygu Disgyblion (GDD) Ysgol Llanbedrog 2019-20

Diben y GDD yw gwella canlyniadau i ddysgwyr sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYD). Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at welliannau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Fel ysgol rydym am ddysgu o’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt trwy:
• gynllunio ymyriadau sy’n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad plant o gefndiroedd difreintiedig, ac sy’n nodi’n glir yr hyn a ddisgwylir gan yr ymyriad, gan fonitro cynnydd disgyblion yn gyson a gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad.
• integreiddio cynlluniau ar gyfer defnyddio’r GAD i’n Cynllun Datblygu Ysgol, gan selio arferion ar dystiolaeth dda a’u cynnwys fel rhan o strategaeth ysgol gyfan.
• gydbwyso ymyriadau ysgol gyfan ac ymyriadau wedi’u targedu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael budd fel unigolyn a bod yr ysgol gyfan yn meithrin ei gallu i helpu pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.

Yn 2019-20 rhoddwyd i Ysgol Llanbedrog ddyraniad GDD o £11,750.

Yn Ysgol Llanbedrog mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Gwynedd a GwE, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
• gyflogi cymhorthydd

Nid yw’n briodol i’r ysgol gyhoeddi ei chynllun manwl oherwydd y perygl y gellid adnabod unigolion.

Darllen
Mae plant drwy’r ysgol yn cael mynd a llyfrau darllen o’r dosbarthiadau adref i’w darllen ac mae gan bob plentyn ysgol gyfrif ar gynllun DarllenCo.

 

Gwaith Cartref
Rhoddir Gwaith Cartref yn achlysurol ar draws yr ysgol, unai ar bapur neu ar Ddosbarth Google sydd ar Hwb. Disgwylir i bob plentyn ei ddychwelyd.

 

Mae’r ysgol yn credu’n gryf mewn meithrin a datblygu doniau creadigol ac fe hywryddir hyn drwy gynnal cyngherddau a chystadlu mewn Eisteddfodau. Bydd yr ysgol bob amser yn gwneud ei gorau i gefnogi gweithgareddau lleol o’r fath.

Ceir hefyd gyfleoedd i gystadlu mewn gweithgareddau addysg gorfforol -yn aml maent ar benwythnos neu gyda’r nos. Mae’r gweithgareddau hyn yn agored i’r holl ddisgyblion sydd ym marn yr athrawon, yn aeddfed ac yn barod i gymryd rhan cyfrifol ynddynt.

 

Cynigiwn wersi offerynnol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Nôd y bartneriaeth yw galluogi disgyblion i dderbyn hyfforddiant gan diwtoriaid arbenigol yn ystod oriau dysgu.

Darperir 30 gwers o fewn y flwyddyn ysgol. Pan fydd y plant wedi cyrraedd safon digon uchel, bydd y tiwtoriaid yn eu cynorthwyo i ymarfer tuag at gyngherddau, gwaith arholiadau a chystadlaethau’r Urdd.

Rhaid ymrwymo i’r gwersi am flwyddyn addysgol gyfan, ac arwyddo cytundeb gyda’r ysgol. £40 y tymor yw cost y gwersi i’r rhieni ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraethwyr yn adolygu’r costau hyn yn flynyddol. Rhaid talu ar School Gateway.
Ar hyn o bryd cynigir gwersi offerynnau pres, llinynnol a gitâr i ddisgyblion blynyddoedd 3,4,5 a 6 yn Ysgol Llanbedrog.

Cliciwch yma i fynd i wefan Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn

 

Mae gan yr ysgol hon wisg ysgol swyddogol, ac anogir chwi i’w dilyn:

  • Crys polo gwyn neu goch.
  • Crys chwys coch gyda logo’r ysgol arno.
  • Sgert neu drowsus hir neu gwta tywyll.
  • Ffrog haf gingham goch a gwyn.
  • Esgidiau cyfforddus, ymarferol.

Gellir prynu crysau polo a chrysau chwys gyda logo’r ysgol arnynt o Brodwaith

Er nad oes gorfodaeth ar unrhyw ddisgybl i wisgo’r wisg ysgol, disgwylir i’r plant fod wedi eu gwisgo’n lan a thrwsiadus, a bod y dillad ac esgidiau yn rhai addas i’w gwisgo i ddibenion ysgol.

Gwnewch yn siwr bod enw eich plentyn ar bob un dilledyn os gwelwch yn dda.

 

Mae system ddiogelwch yn bodoli yn yr ysgol hon. Dylai pob plentyn fod yn ei ddosbarth erbyn 9:00 a.m.. Gofynnir i rieni ganu cloch y brif fynedfa, os ydych am fynediad i’r ysgol.

Cymerir pob cam rhesymol ac ymarferol i sicrhau diogelwch a lles yr holl bersonau sy’n defnyddio adeiladau a thiroedd yr ysgol.

Gweithredir yn unol â pholisi iechyd a diogelwch ac adolygir y gweithdrefnau yn rheolaidd. Rhaid i bob ymwelydd / gweithiwr lofnodi yn y Ffeil Ymwelwyr wrth gael mynediad i’r ysgol gan dynnu sylw ei hun at reolau tân a rheolau diogelwch yr ysgol.

 

Croeso i’r plant ddod â ffrwyth i’r ysgol ar gyfer ei fwyta ganol y bore. Ni chaniateir fferins, siocled, chreision, na diod heblaw am ddŵr yn unol â chanllawiau Ysgolion Iach Gwynedd a ‘Blas Am Oes’ Llywodraeth Cymru.

Mae cynnig i’r plant ar draws yr ysgol gael diod o lefrith yn ystod bore.


Yn unol â pholisi'r ysgol, byddwn yn hysbysu rhieni pe bai llau pen yn cael eu gweld yng ngwallt eu plentyn. Gofynnir i rieni archwilio a thrin gwallt eu plant yn syth. Os caiff llau pen eu darganfod, , rhaid eu trin cyn dychwelyd i’r ysgol. Trwy gydweithio fel hyn anelwn at leihau a dileu'r nifer o achosion o lau yn yr ysgol.

Cliciwch yma i weld taflen ffeithaiu llau pen y Llywodraeth.

Llyfryn Llau

Taflen Wybodaeth Llau

Poster Llau Pen

Derbynnir disgyblion i’r ysgol yn unol â Côd Mynediad yr Awdurdod
Yn unol â’r polisi, derbynnir disgyblion Meithrin (rhan amser), i’r ysgol yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.

Derbynnir disgyblion oed Derbyn i’r ysgol yn llawn amser yn y Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Mae Ffurflenni Mynediad ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd a rhaid i bob cais gael ei anfon i Swyddog Mynediad y Cyngor.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth mynediad i ysgolion

Croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth i drafod a threfnu ymweliad.

Nid yw Ysgol Llanbedrog yn ysgol ddynodedig ar gyfer derbyn plant ag anableddau corfforol dwys. Er hyn, mae mynedfeydd priodol i dderbyn disgyblion, rhieni neu ymwelwyr ag anableddau, ac mae toiled addas i’r anabl o fewn yr adeilad.

Nid oes mannau parcio dynodedig ar gyfer yr anabl yn y maes parcio.

Pe bai plentyn gydag anabledd yn gwneud cais buasem yn gwneud newidiadau rhesymol.

 

Ar dir yr ysgol
Ni chaniateir mynediad i dir yr ysgol i gar neu unrhyw gerbyd arall, heb ganiatâd o flaen llaw gan y Pennaeth neu aelod arall o’r staff.
Mae maes parcio'r ysgol at ddefnydd staff yn unig.

 

O flaen yr ysgol
Mae traffig a pharcio o flaen yr ysgol ar gychwyn a diwedd dydd yn anodd ac angen monitro manwl, parhaus a chydweithio rhwng yr ysgol a theuluoedd.
Gofynnir yn garedig i rieni barcio yn unol â rheolau’r ffordd fawr heb rwystro’r groesfan na’r tai cyfagos ac heb barcio ar y pafin.
Gofynnwn i bawb sydd o fewn pellter cerdded i’r ysgol osgoi dod â char er mwyn lleihau’r prysurdeb.
Pan fo’n bosib buasai’n syniad da i rannu ceir er mwyn lleihau traffig a helpu’r amgylchedd.

 

Dylai pob disgybl gerdded yn bwyllog a gofalus, disgyblion y Cyfnod Sylfaen dan ofal oedolyn, er mwyn osgoi damwain.

 

Mae dynes lollipop ar ddylestwydd yn y boreau ac amser mynd adref.

Mae Ysgol Llanbedrog yn dilyn Polisi Iaith Gwynedd a Siarter Iaith Gwynedd

Amcanion Cyffredinol:

  • Meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y ddwy iaith
  • Datblygu gallu ieithyddol yn y ddwy iaith
  • Meithrin diddordeb mewn ffurfiau amrywiol o lenyddiaeth
  • Creu ymwybyddiaeth o werth yr etifeddiaeth Gymraeg

Prif amcanion gweithgareddau’r Cyfnod Sylfaen fydd rhoi sylfaen gadarn Gymraeg i bob plentyn. Gan mai yn y cyfnod cynnar hwn y mae plentyn mwyaf parod i amsugno iaith, y mae’n bwysig creu amrywiaeth o brofiadau symbylus iddynt.

Ym mlwyddyn 1 a 2 adeiladir ar y sylfeini a osodwyd i’r Gymraeg, er mwyn galluogi’r plentyn i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law; cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwr Cymraeg ac ymestyn gafael y plant o gartref Cymraeg ar y Saesneg.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 bydd cadarnhad a datblygiad pellach o Gymraeg a Saesneg pob plentyn, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhwydd a hyderus yn y ddwy iaith pan fydd yn trosglwyddo i’r ysgol Uwchradd.

Trefnir i hwyrddyfodiaid yn Cyfnod Allweddol 2 i fynychu’r Uned Iaith Dalgylchol ble mae cyfleusterau ar gyfer cyflwyno cyrsiau dwys arbenigol i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn trosglwyddo yn ôl i’r ysgol gynradd ymhen tymor.

I hybu naws Gymreig yr ysgol, disgwylir mai’r Gymraeg a ddefnyddir i sgwrsio’n anffurfiol yn y dosbarth ac ar y buarth.

Cliciwch yma i weld Polisi Iaith Cyngor Gwynedd.

Cliciwch yma i weld pamffled y Siarter Iaith.

Cliciwch yma i weld cyflwyniad ar werth ddwyieithrwydd.

 

Mae presenoldeb a phrydlondeb disgyblion yn un o brif flaenoriaethau’r ysgol. Cydnabyddir fod cydberthynas rhwng presenoldeb a pherfformiad addysgol. O ganlyniad, anogir rhieni i sicrhau presenoldeb eu plant yn yr ysgol. Mae’r Llywodraethwyr wedi gosod targed presenoldeb o 95.5% i bob plentyn ac i’r ysgol gyfan.

Mae cyfrifoldeb rhieni yn ymestyn i sicrhau fod eu plant yn cyrraedd yr ysgol mewn pryd, yn daclus, ac mewn cyflwr i ddysgu. Disgwylir i rieni egluro unrhyw absenoldeb, nail ai ar lafar i’r athro dosbarth, dros ffôn (01759 740631), drwy lythyr neu e-bost i’r pennaeth (Manon.Owen@llanbedrog.ysgoliongwynedd.cymru)

Pan mae presenoldeb afreolaidd disgybl yn achosi pryder gofynnir am gymorth Swyddogion Lles Addysg. Bwydir presenoldeb yr ysgol ar system Sims sydd yn mynd yn syth i Swyddfa Addysg Cyngor Gwynedd. Bydd Swyddog Lles a Phresenoldeb yn ymweld â’t ysgol yn dymhorol i fonitro hyn.

Mae gan rhieni hawl i ofyn caniatâd y Llywodraethwyr i dynnu eu plentyn o’r ysgol i fynd am wyliau am hyd at 10 diwrnod mewn blwyddyn. Dylid gwneud y cais drwy lenwi’r ffurflen isod a’i gyflwyno o leiaf mis cyn dyddiad y gwyliau. Gweler aAdran 5 y Polisi Presenoldeb a Phrydlondeb am fwy o fanylion.

Clicwich yma i gael ffurflen absenoldeb

Cliciwch yma i gael ffurflen gofyn caniatad i fynd ar wyliau.

 

Disgwylir i rieni hysbysu’r ysgol o unrhyw gyflwr meddygol neu glinigol a allai effeithio ar addysg plentyn.

Os yw’n hanfodol bod plentyn yn cymryd moddion yn ystod oriau ysgol rhaid trafod y mater gyda’r Pennaeth, a llenwi ac arwyddo ffurflen bwrpasol. Cliciwch yma am ffurflen. (i ddilyn yn fuan)

Cedwir unrhyw foddion mewn cwpwrdd dan glo. Ni ddylai plant ddod â moddion i’r ysgol eu hunain.

 

Mae Ysgol Llanbedrog yn nalgylch dwy ysgol Uwchradd, Ysgol Botwnnog ac Ysgol Glan y Môr.

Gwneir trefniadau ar gyfer pontio a hwyluso trosglwyddiad o un ysgol i’r llall. Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd ar ymweliad a’r ysgolion uwchradd yn nhymor yr Hydref a thymor yr Haf a bydd staff uwchradd yn ymweld â blwyddyn 6 ar fwy nag un achlysur.

Trosglwyddir disgyblion i’r ysgol uwchradd yn unol â Pholisi Mynediad yr Awdurdod.
Gofynnir i rieni sydd am ddanfon eu plentyn i unrhyw ysgol uwchradd arall i drefnu ymweliad eu hunain. Byddwn wrth reswm yn hwyluso unrhyw ymweliad fel y gallwn.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth mynediad i ysgolion

 

Yn achlysurol bydd lluniau yn cael eu tynnu o’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r ysgol. Gall rhai o’r lluniau yma gael eu rhoi yn y papurau newydd, eu cynnwys mewn cyhoeddiadau neu ar safleoedd gwe'r ysgol, Cyngor Gwynedd neu sefydliadau eraill y byddwn yn cydweithio â nhw.

Os nad ydych am i’ch plentyn gael ei chynnwys/gynnwys mewn lluniau cyffelyb, a fyddech cystal ag ysgrifennu llythyr at y pennaeth i nodi hynny.

Os na dderbynnir llythyr cymerir yn ganiataol nad oes gennych wrthwynebiad.

 

Pe bai raid cau’r ysgol oherwydd tywydd garw gofynnir i chi gadw golwg ar wefan yr ysgol, gwefan Cyngor Gwynedd, neu trwy wrando ar bigion newyddion Radio Cymru neu Heart.

Cliciwch yma i fynd i wefan Cyngor Gwynedd.

 

Disgwylir i’r plant ymddwyn yn barchus a chwrtais bob amser.

Disgwylir i bob disgybl gyfrannu at greu cymdeithas hapus, gartrefol, weithgar yn yr ysgol drwy:

  • barchu cyd-ddisgyblion, staff yr ysgol ac unrhyw ymwelwyr drwy ymddwyn yn glên, cwrtais meddylgar, caredig a gofalus.
  • barchu eiddo drwy beidio â gwneud difrod bwriadol nac ymyrryd ag eiddo yr ysgol na pobl eraill;
  • gwneud pob ymdrech i gadw’r ysgol a’i hamgylchedd yn daclus gan rhoi pob ysbwriel yn y biniau.
  • beidio â dod ag eiddo personol i’r ysgol e.e., teganau, heblaw pan eu bod yn cyfrannu at waith y dosbarth.

Mae trefn disgyblu Ysgol Llanbedrog yn dilyn egwyddorion cynnal ymddygiad da Webser-Stratton, a gefnogir gan Gyngor Gwynedd. Trwy hyn canolbwyntir ar ganmol, modelu a chlodfori ymddygiad cadarnhaol yn hytrach na chanolbwyntio ar y negyddol. Er fod pob athro/athrawes yn gyfrifol am ymddygiad ei ddosbarth ei hun, mae holl staff yr ysgol yn dilyn yr un egwyddorion cynnal ymddygiad gan ddilyn y Rheolau Aur ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a dilyn yr un drefn o ganmol a sancsiynu. Mewn rhai achosion o gam-ymddwyn, bydd plant yn cael cyfle i ymdawelu ar y Gadair Dawel neu weithiau cedwir y plentyn i mewn dros amser chwarae. Os bydd sefyllfa yn codi ble bydd plentyn yn camymddwyn yn rheoliadd neu’n ddifrifol, gofynnir i’r rhieni i ddod i mewn i’r ysgol i drafod y mater gyda’r Pennaeth.

Mae’r ysgol yn ceisio dysgu’r disgyblion i wahaniaethu rhwng ffraeo dydd i ddydd rhwng ffrindiau a chyfoedion, a bwlio. Bwlio yw pan fo’r un disgybl yn cael ei niweidio yn gyson ac yn fwriadol a bygythiol. Mae’r sawl sy’n gwneud y bwlio yn rhywun/rhywrai y mae’r dioddefwr yn ei chael yn anodd ei amddiffyn ei hun yn ei erbyn. Ni dderbynir unrhyw fath o fwlio yn Ysgol Llanbedrog. Mae canllawiau wedi’u nodi yn y Polisi Disgyblaeth ac os bydd bwlio’n digwydd yna delir â’r mater yn unol â’r canllawiau hynny.

Mae gan yr ysgol Bolisi Grym Rhesymol sydd i’w weithredu gan staff dan amgylchiadau arbennig er cynnal lefel dderbyniol o ddiogelwch.

 

 

sponsor logos noddwyr

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd
© 2025 - Ysgol Llanbedrog ~ Gwefan gan Delwedd