Cwricwlwm i Gymru

Canllaw i'r Cwricwlwm newydd i Gymru

Cwricwlwm i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.

Cwricwlwm newydd i Gymru:

Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy'n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda'n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae'r pedwar diben, sy'n rhoi'r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:

  • 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
  • 3 cyfrifoldeb traws-gwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
  • camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
  • deilliannau cyrhaeddiad sy'n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd tramor modern)
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).

Bydd y dolenni hyn yn eich helpu i ddeall sut mae Cwricwlwm newydd Cymru yn gweithio a sut y bydd yn helpu eich plentyn i ddysgu.

 

sponsor logos noddwyr

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd
© 2022 - Ysgol Llanbedrog ~ Gwefan gan Delwedd